Fframweithiau polisi cyffredin y DU - Y Bumed Senedd
Fframweithiau polisi cyffredin y DU - Y Bumed Senedd
Daeth y Pumed
Senedd i ben ym mis Mai 2021.
Darganfod gwaith
sy'n ymwneud â Fframweithiau
Cyffredin yn y Chweched Senedd (2021-2026)
Y Senedd a
fframweithiau cyffredin
Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a
Materion Gwledig adroddiad
(PDF, 379KB) ynghylch fframweithiau cyffredin y DU mewn perthynas ag
amaethyddiaeth a’r amgylchedd ym mis Gorffennaf 2018.
Cynhaliodd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth
Ychwanegol sesiynau craffu rheolaidd gyda gweinidogion Llywodraeth Cymru a
Llywodraeth y DU i graffu ar y broses o greu'r fframweithiau.
Ddydd Llun 14
Ionawr 2019, cynhaliodd y Pwyllgor sesiwn dystiolaeth
panel arbenigol ar ddatblygu fframweithiau polisi cyffredin y DU a deddfu ar
gyfer Brexit. Yn dilyn hyn, cafwyd sesiwn dystiolaeth
panel arbenigol arall ar 17 Mehefin 2019, yn canolbwyntio ar waith craffu ar
fframweithiau polisi cyffredin y DU.
Ysgrifennodd
(PDF, 395KB) y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ar 7 Mai 2019 i ofyn am
ragor o wybodaeth am safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phob un o’r
meysydd a nodwyd yn asesiad
dros dro [Saesneg yn unig] Llywodraeth y DU gan eu bod yn croestorri
cymhwysedd datganoledig Cymru.
Mewn ymateb, cafodd
y Pwyllgor sesiwn friffio dechnegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru yn ei gyfarfod ar 20
Mai 2019, ac, yn dilyn hyn, anfonodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit
lythyr
(PDF, 257KB) at y Cadeirydd ar 24 Mai 2019.
Cynhaliodd y
Pwyllgor sesiwn
graffu gyda’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit ar 3 Mehefin 2019
pan atebodd y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit gwestiynau am
fframweithiau polisi cyffredin y DU.
Ar 3 Gorffennaf
2019, gwnaeth Llywodraeth y DU ddatganiad ysgrifenedig ynghylch fframweithiau
cyffredin a chysylltiadau rhynglywodraethol, gan ddatgan bod pedair dogfen yn
cael eu cyhoeddi
[Saesneg yn unig]:
- adroddiad cynnydd ynghylch llunio’r
fframweithiau cyffredin;
- dogfen yn amlinellu’r camau allweddol
er mwyn cyflwyno’r fframweithiau cyffredin;
- fframwaith amlinellol ynghylch
cynllunio sylweddau peryglus; a
- set o egwyddorion drafft ar gyfer
cysylltiadau rhynglywodraethol.
Ar 3 Gorffennaf
2019, ysgrifennodd
(PDF, 242KB) y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit at Gadeiryddion y
Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, y Pwyllgor Materion Allanol
a Deddfwriaeth Ychwanegol, a’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a
Materion Gwledig er mwyn tynnu eu sylw at y dogfennau hyn, ac i ddweud ei fod
yn croesawu’r cynnydd a wnaed o ran fframweithiau cyffredin.
Cyhoeddodd y Pwyllgor
adroddiad ynghylch fframweithiau
polisi cyffredin y DU gyfan – papur trafod ym Awst 2019. Nod y papur oedd
rhoi trosolwg o beth yw fframweithiau a beth y gallai fod angen i bwyllgorau’r
Senedd ei ystyried o ran craffu.
Cynhaliodd y
Pwyllgor grŵp trafod gydag academyddion ynghylch craffu ar fframweithiau polisi cyffredin y DU
gyfan ar 14 Hydref 2019.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor ei adroddiad
ar fframweithiau polisi cyffredin: craffu ar waith y Cynulliad, ar 9 Rhagfyr
2019. Roedd yr adroddiad yn cynnig dull ar gyfer gwaith y Senedd o graffu ar
fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 23 Ionawr 2020.
Y cefndir
Yn dilyn
penderfyniad y DU i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, roedd angen i Lywodraeth y DU
a'r gweinyddiaethau datganoledig greu dulliau gweithredu cyffredin ledled y DU
– neu 'fframweithiau' – yn y meysydd polisi sy'n cael eu llywodraethu gan
gyfraith yr UE, ond sydd o fewn cymhwysedd y gweinyddiaethau neu'r deddfwrfeydd
datganoledig.
Ar 16 Hydref 2017,
cyhoeddodd Cydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) gyfathrebiad
[Saesneg yn unig] (PDF, 71.8KB) a oedd yn nodi'r egwyddorion
a fyddai’n llywodraethu'r fframweithiau.
Roedd y cyfathrebiad yn nodi y byddai
fframweithiau cyffredin yn cael eu sefydlu lle roedd eu hangen er mwyn:
galluogi marchnad fewnol y DU i weithredu, ond gan
gydnabod gwahaniaethau polisi;
- sicrhau cydymffurfiaeth â
rhwymedigaethau rhyngwladol;
- sicrhau y gall y DU drafod cytundebau
masnach a chytundebau rhyngwladol newydd, ymrwymo iddynt a’u rhoi ar
waith;
- galluogi rheoli adnoddau cyffredin;
- gweinyddu a darparu mynediad at
gyfiawnder mewn achosion sydd ag elfen drawsffiniol; a
- gwarchod diogelwch y DU.
Ar 9 Mawrth 2018,
cyhoeddodd Llywodraeth y DU asesiad
dros dro [Saesneg yn unig] (PDF, 197KB) o feysydd cyfraith yr UE a oedd
yn croestorri â chymhwysedd datganoledig ym mhob un o'r gweinyddiaethau
datganoledig. Roedd y dadansoddiad fframwaith yn ymdrin â 153 o feysydd polisi
gwahanol, gan gynnwys polisi amgylcheddol ac amaethyddiaeth, ac roedd yn dod
i'r casgliad bod:
- 49 o feysydd lle nad oedd angen
gweithredu pellach;
- 82 o feysydd lle y gallai fod angen
fframweithiau anneddfwriaethol; a
- 24 o feysydd lle gallai trefniadau
fframwaith cyffredin deddfwriaethol fod yn angenrheidiol.
Daeth y
dadansoddiad hefyd i'r casgliad bod 12 maes polisi a oedd wedi’u cadw yn ôl ym
marn Llywodraeth y DU ond yr oeddent yn destun ‘trafodaeth barhaus’ â’r
llywodraethau datganoledig. Roedd y rhain yn cynnwys enwau bwyd gwarchodedig a
chymorth gwladwriaethol.
Ar 4 Ebrill 2019,
cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddadansoddiad
diwygiedig [Saesneg yn unig] (PDF, 342KB) o feysydd cyfraith yr UE sy'n
croestorri â'r gweinyddiaethau datganoledig.
Math o fusnes: Fframwaith Cyffredin
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/01/2019
Dogfennau
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ynghylch fframweithiau cyffredin – 27 Ionawr 2021 PDF 186 KB
- Ymatebion i Argymhellion y Pwyllgor - 23 Ionawr 2020
- Fframweithiau polisi cyffredin: Gwaith craffu gan y Cynulliad - Rhagfyr 2019
- Fframweithiau polisi cyffredin y DU gyfan – papur trafod - Awst 2019
- Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol a fframweithiau cyffredin – 3 Gorffennaf 2019 PDF 242 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Brexit a'r Cwnsler Cyffredinol at y Cadeirydd ynghylch dadansoddiad fframweithiau diwygiedig - 24 Mai 2019 PDF 457 KB
- Gohebiaeth gan Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol at y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit ynghylch y dadansoddiad fframweithiau diwygiedig - 7 Mai 2019 PDF 395 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Brexit at y Cadeirydd ynghylch Dadansoddiad Fframweithiau Cyffredin y DU - 4 Ebrill 2019 PDF 251 KB
- CCERA Related Documents
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) 2021 - 24 Mawrth 2021 PDF 280 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 10 Chwefror 2021 PDF 135 KB
- Cyfyngedig Gweld rhesymau dros gyfyngu
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ynghylch ailddosbarthu Fframweithiau Cyffredin – 13 Hydref 2020 PDF 382 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol - 19 Gorffennaf 2019 PDF 82 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig - 19 Gorffennaf 2019 PDF 82 KB
- Gohebiaeth gan y Cadeirydd at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth - 19 Gorffennaf 2019 PDF 82 KB
- Gohebiaeth gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol at y Cadeirydd - 28 Awst 2019 PDF 338 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig at y Cadeirydd - 30 Awst 2019 PDF 461 KB
- Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth at y Cadeirydd - 26 Medi 2019 PDF 291 KB