Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Sefydlwyd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad gan y Senedd i gyflawni swyddogaethau’r pwyllgor cyfrifol a amlinellir yn Rheolau Sefydlog 21 a 26C. Gall y Pwyllgor hefyd ystyried unrhyw fater sy’n ymwneud â deddfwriaeth, datganoli, y cyfansoddiad, cyfiawnder, a materion allanol.

Mae gan y Pwyllgor bedwar Aelod sy'n dod o'r gwahanol bleidiau sydd â chynrychiolaeth yn y Senedd, ac mae’n cael ei gadeirio gan Huw Irranca-Davies AS.

Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mehefin 2021, daeth y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Gweithgaredd pwyllgor diweddaraf

Deddfwriaeth Sylfaenol

Biliau a gyflwynir yn y Senedd

Gall Senedd Cymru basio Deddfau ar unrhyw faterion nas cedwir gan Senedd y DU o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (fel y’i diwygiwyd gan Ddeddf Cymru 2017).

Hynt Biliau'r Senedd

Cydsyniad Deddfwriaethol

Pan fydd Senedd y DU yn dymuno deddfu ar fater sydd eisioes wedi'i ddatganoli i Senedd Cymru, mae confensiwn yn ei gwneud yn ofynnol iddi gael cydsyniad Senedd Cymru cyn y gall basio'r ddeddfwriaeth dan sylw.

Ceir adroddiadau ar femoranda cydsyniad deddfwriaethol gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o dan ‘Adroddiadau cyhoeddedig’ isod.

Darllen mwy am Cydsyniad Deddfwriaethol

Is-ddeddfwriaeth

Yng Nghymru, Gweinidogion Cymru sy'n gyfrifol am wneud is-ddeddfwriaeth gan ddefnyddio pwerau a roddir iddynt mewn deddfau galluogi fel Deddfau gan Senedd Cymru, Mesurau'r Cynulliad a Deddfau Senedd y Deyrnas Unedig. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth ddirprwyedig hefyd, am fod y ddeddf alluogi yn dirprwyo'r pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth. Cyfeirir at is-ddeddfwriaeth fel deddfwriaeth eilaidd hefydd.

Gwaith Eraill

Cylch Gwaith

Sefydlwyd y Pwyllgor ar 26 Mai 2021* i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol fel y'u nodir yn Rheol Sefydlog 21, a Rheol Sefydlog 26C, ac i ystyried unrhyw fater arall yn ymwneud â deddfwriaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, neu sy'n gysylltiedig â chymhwysedd y Senedd neu Weinidogion Cymru, gan gynnwys ansawdd Deddfwriaeth, datganoli, y cyfansoddiad (gan gynnwys dyfodol cyfansoddiadol Cymru), cyfiawnder, a materion allanol, gan gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i) newidiadau i’r setliad datganoli, a chysylltiadau rhynglywodraethol.

 

* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mehefin 2021, daeth y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.* Yn dilyn penderfyniad yn y Cyfarfod Llawn ar 23 Mehefin 2021, daeth y Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth Dros Dro y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad.

Aelodau'r Pwyllgor