Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16

Cyflwynwyd y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 18 Mai 2021.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth ar gyfer cynlluniau gwella sgiliau lleol; gwneud darpariaeth ar gyfer addysg bellach; gwneud darpariaeth ar gyfer swyddogaethau’r Sefydliad Prentisiaethau ac Addysg Dechnegol ac yn gysylltiedig â chymwysterau addysg dechnegol; gwneud darpariaeth ar gyfer cyllid a ffioedd myfyrwyr; gwneud darpariaeth ar gyfer ariannu rhai darparwyr addysg neu hyfforddiant ôl-16 penodol; a dibenion cysylltiedig.”

 

Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i  ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 yn y Cyfarfod Llawn ar 11 Ionawr 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Rhagfyr 2021

 

Ar 10 Rhagfyr 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 123KB).

 

Cytunodd (PDF 42.4KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (Memorandwm Rhif 3) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 11 Ionawr 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 239KB) ar 10 Ionawr 2022. Ymatebodd (PDF 336KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Ionawr 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Hydref 2021

 

Ar 29 Hydref 2021, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 92.7 KB).

 

Cytunodd (PDF 42.3KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Sgiliau ac Addysg Ôl-16 (Memorandwm Rhif 2) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 16 Rhagfyr 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 283KB) ar 24 Tachwedd 2021. Ymatebodd (PDF 336KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Ionawr 2022.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Gorffennaf 2021

 

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 88.9KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 9 Gorffennaf 2021.

 

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig, y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 21 Hydref 2021. (PDF 45.9KB)

 

Ar 19 Hydref 2021, cytunodd (PDF 44.5KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 11 Tachwedd 2021.

 

Ar 4 Tachwedd 2021, cytunodd (PDF 46.1KB) y Pwyllgor Busnes i ymestyn y dyddiad ar gyfer cyflwyno adroddiad i 16 Rhagfyr 2021.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 283KB) ar 24 Tachwedd 2021. Ymatebodd (PDF 336KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Ionawr 2022.

 

Gwnaeth Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg osod ei adroddiad (PDF 830KB) ar 16 Rhagfyr 2021.

 

Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.

 

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 15/07/2021

Dogfennau