Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol
Cyflwynwyd y Bil Pensiynau'r Gwasanaeth
Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol (y Bil) yn Nhŷ'r Arglwyddi ar 19 Gorffennaf 2021.
Mae'r teitl hir
i'r Bil yn nodi mai Bil yw "i wneud darpariaeth o ran cynlluniau pensiwn
gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys darpariaeth ôl-weithredol i gywiro
gwahaniaethu anghyfreithlon yn y ffordd y cyfyngwyd ar gynlluniau presennol o
dan Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 a deddfwriaeth gyfatebol
Gogledd Iwerddon; gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu cynlluniau pensiwn
cyhoeddus newydd ar gyfer aelodau o gynlluniau pensiwn galwedigaethol cyrff a
ddygwyd i berchnogaeth gyhoeddus o dan Ddeddf Bancio (Darpariaethau Arbennig)
2008; gwneud darpariaeth o ran taliadau a dyddiad ymddeol deiliaid swyddi
barnwrol penodol; gwneud darpariaeth o ran gwasanaeth barnwrol ar ôl ymddeol;
ac at ddibenion cysylltiedig â hynny.”
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar
fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Pensiynau'r Gwasanaeth
Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol yn y Cyfarfod Llawn ar 8 Chwefror 2022.
Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Awst 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 87.3KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 11 Awst
2021.
Cytunodd (PDF
41.4KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried a chyflwyno adroddiad
ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Pensiynau'r Gwasanaeth
Cyhoeddus a Swyddi Barnwrol, i’r Senedd, erbyn 4 Tachwedd 2021.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 143KB) ar 3 Tachwedd 2021.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ei adroddiad (PDF
123KB) ar 4 Tachwedd 2021.
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 17/08/2021