Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd
Cyflwynwyd Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu
a’r Llysoedd (y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 9 Mawrth 2021.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi mai ei ddiben “yw gwneud darpariaeth ynghylch yr heddlu a gweithwyr
y gwasanaethau brys eraill; gwneud darpariaeth ynghylch trefniadau i awdurdodau gydweithio i atal a
lleihau trais difrifol; gwneud darpariaeth ynghylch adolygiadau o achosion o ddynladdiad
ag arfau ymosodol; gwneud darpariaeth ynghylch troseddau newydd ac ar gyfer
addasu troseddau presennol; gwneud darpariaeth ynghylch pwerau'r heddlu ac
awdurdodau eraill at ddibenion atal, canfod ac ymchwilio i droseddau neu eu
herlyn, neu ar gyfer ymchwilio i faterion eraill; gwneud darpariaeth ynghylch
cynnal y drefn gyhoeddus; gwneud darpariaeth ynghylch symud, storio a gwaredu
cerbydau; gwneud darpariaeth mewn perthynas â throseddau gyrru; gwneud
darpariaeth ynghylch rhybuddion; gwneud darpariaeth ynghylch mechnïaeth a
remand; gwneud darpariaeth ynghylch dedfrydu, cadw, rhyddhau, rheoli ac
ailsefydlu troseddwyr; gwneud darpariaeth ynghylch Academïau 16 i 19 diogel;
gwneud darpariaeth ar gyfer gweithdrefnau gerbron llysoedd a thribiwnlysoedd, ac
mewn perthynas â hwy; a dibenion cysylltiedig.”
Mae'r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater a allai ddod o fewn cymhwysedd y
Senedd fel arfer.
Trafodwyd y
Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu
a’r Llysoedd yn y Cyfarfod Llawn ar 1 Mawrth 2022. Derbyniwyd
Cynnig 1, a gwrthodwyd Cynnig 2.
Trafodwyd y
Cynigion Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu
a’r Llysoedd yn y Cyfarfod Llawn ar 18 Ionawr 2022. Derbyniwyd
Cynnig 1, a gwrthodwyd Cynnig 2.
Gwaith
craffu yn y Chweched Senedd
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 5) – Chwefror 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol Atodol (PDF 331KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad
Cenedlaethol ar 28 Chwefror 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 4) – Ionawr 2022
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 175KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad
Cenedlaethol ar 7 Ionawr 2022.
Cytunodd (PDF
41.6KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Memorandwm Rhif 4) ei
drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 18 Ionawr 2022.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF 206KB) ar Femorandwm Rhif 3 a
Femorandwm Rhif 4 ar 17 Ionawr 2022. Ymatebodd (PDF 326KB) Llywodraeth Cymru i’r
adroddiad ar 18 Ionawr 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) – Rhagfyr 2021
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF
146KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 20 Rhagfyr 2021.
Cytunodd (PDF
42KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar
y Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Memorandwm Rhif 3) ei drafod
ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 18 Ionawr 2022.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
206KB) ar Femorandwm Rhif 3 a Femorandwm Rhif 4 ar 17 Ionawr 2022. Ymatebodd (PDF
326KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 18 Ionawr 2022.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 2) – Tachwedd
2021
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(PDF 110KB) ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 5 Tachwedd
2021.
Cytunodd (PDF
41.7KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd (Memorandwm Rhif 2) ei
drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 25 Tachwedd 2022.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
215KB) ar 25 Tachwedd 2021. Ymatebodd (PDF
424KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 7 Ionawr 2022.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 185KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 28 Mai
2021.
Mae'r Pwyllgor
Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad
arno erbyn 14
Hydref 2021 (PDF 45.4KB).
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad ar 14 Hydref 2021. Ymatebodd (PDF
256KB) Llywodraeth Cymru i’r adroddiad ar 12 Tachwedd 2021.
Gwaith
craffu yn y Bumed Senedd
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Mawrth 2021
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 22
Mawrth 2021. (PDF 184KB)
Gellir gweld
rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol,
gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan ‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/03/2021
Dogfennau
- Ymateb Llywodreath Cymru i adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3 a Memorandwm Rhif 4) ar gyfer Bil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd - 18 Ionawr 2022
- Llythyr gan y Llywydd i'r Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd – 16 Gorffennaf 2021
PDF 191 KB
- Llythyr gan y Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i'r Llywydd: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Fil yr Heddlu, Troseddu, Dedfrydu a’r Llysoedd – 2 Gorffennaf 2021
PDF 80 KB
- Datganiad ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru - 24 Mawrth 2021
PDF 291 KB