Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd)
Cyflwynwyd y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac
Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd) (y Bil) yn Nhŷ'r
Cyffredin ar 12 Mai 2021.
Mae teitl hir y Bil yn nodi mai ei ddiben “gwneud
darpariaeth ynghylch materion sydd i’w priodoli i’r coronafeirws nad ydynt
efallai’n cael eu hystyried wrth wneud rhai penderfyniadau at ddibenion
ardrethu annomestig; a gwneud darpariaeth mewn perthynas ag anghymhwyso
cyfarwyddwyr cwmnïau sydd wedi’u diddymu heb fynd yn fethdalwyr.”
Mae'r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad
deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hwn yn fater lle mae Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar
fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac
Anghymhwyso Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd) yn y Cyfarfod Llawn ar 23
Tachwedd 2021.
Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Medi 2021
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 111KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 21 Medi
2021.
Cytunodd (PDF
42.2KB) y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 29.4(i), i wahodd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad i ystyried y Memorandwm Cydsyniad
Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu (Coronafeirws) ac Anghymhwyso
Cyfarwyddwyr (Cwmniau a Ddiddymwyd), ac I gyflwyno adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 18 Tachwedd 2021.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad
(PDF 166KB) ar 17 Tachwedd 2021. Ymatebodd
(PDF 347KB) Llywodraeth Cymru i'r adroddiad ar 9 Rhagfyr 2021.
Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
ei adroddiad
(120 KB) ar 18 Tachwedd 2021. Ysgrifennodd Cadeirydd y Pwyllgor hefyd at y
Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, fel y nodir ym mharagraff 27 o'r
adroddiad, i ofyn am wybodaeth bellach cyn y cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn
Gosododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig
ei adroddiad
(105 KB) ar 8 Chwefror 2022. Ysgrifennodd
(PDF 77KB) Cadeirydd y Pwyllgor hefyd at y Gweinidog yr Economi, i ofyn am
wybodaeth bellach cyn y cynhelir dadl yn y Cyfarfod Llawn.
Gellir gweld rhagor o wybodaeth am ystyriaeth y Senedd
o’r Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol, gan gynnwys gohebiaeth berthnasol, o dan
‘Cyfarfodydd Cysylltiedig’.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 22/09/2021