Is-ddeddfwriaeth sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol
Mae rhai o’r is-ddeddfwriaeth
a wneir gan Weinidogion Cymru yn dilyn y weithdrefn gadarnhaol. Mae'r weithdrefn
hon yn darparu na all Gweinidogion Cymru arfer eu pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth oni fydd y
Senedd wedi gwneud penderfyniad i gymeradwyo drafft o'r is-ddeddfwriaeth.
Felly, mae'r is-ddeddfwriaeth yn cael ei gosod gerbron y Senedd ar ffurf
drafft, ac ni fydd yn dod i rym oni bai bod y Senedd yn cymeradwyo'r drafft.
Mae'r weithdrefn hon yn aml yn cael ei chadw ar gyfer is-ddeddfwriaeth mwy
arwyddocaol.
Ar gyfer y
dyddiad y gwnaed is-ddeddfwriaeth yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol,
ewch i Legislation.gov.uk.
Math o fusnes: Is-ddeddfwriaeth
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 11/05/2021