Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Graeme Francis
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 02/03/2021 - Y Pwyllgor Deisebau - Y Bumed Senedd
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y
Cadeirydd yr Aelodau i'r cyfarfod. Cafwyd
ymddiheuriadau gan Neil McEvoy AS. |
|
Deisebau newydd Covid 19 |
|
P-05-1118 Gadewch i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen gefnogaeth o dan gyfyngiadau Covid Haen 4 newydd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac yng ngoleuni'r cyhoeddiad diweddar gan
Lywodraeth Cymru i leddfu cyfyngiadau yng Nghymru i ganiatáu i deuluoedd â
babanod ffurfio swigen gydag un cartref arall, cytunodd i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1123 Codi blaenoriaeth gweithwyr allweddol nad ydynt yn gweithio i’r GIG sy’n wynebu'r cyhoedd wrth gyflwyno'r brechlyn ar gyfer Covid-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r cyngor diweddaraf a
gafwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ynghylch ail gam y
rhaglen frechu, sef yn benodol y dylid parhau i flaenoriaethu'r rhaglen yn ôl
oedran a bregusrwydd clinigol, cytunodd nad oedd unrhyw beth y gallai gael ei
gyflawni ar y ddeiseb ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1124 Caniatáu i ddau unigolyn o ddwy aelwyd wahanol gwrdd ar gyfer ymarfer corff yn haen 4 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd fod yr yn yr oedd ddeiseb yn gofyn
amdano bellach wedi'i gyflawni. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch
i’r deisebydd. |
|
P-05-1127 Gostwng yr uchafswm ffioedd ar gyfer holl brifysgolion Cymru oherwydd gofynion dysgu o bell yn sgil COVID-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd nad oedd modd gwneud llawer mwy
ar hyn o bryd oherwydd nad oes gan y deisebydd unrhyw sylwadau pellach ac nad
oes gan Lywodraeth Cymru rôl o ran pennu cyfraddau ffioedd dysgu, ac eithrio
pennu uchafswm. Cytunodd y Pwyllgor i gynghori'r deisebydd y gallai'r mater hwn
fod yn ganolbwynt i fudiad undeb y myfyrwyr at y dyfodol a chaeodd y ddeiseb. |
|
P-05-1128 Canslo 'asesiadau' allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r
penderfyniad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ers hynny i ganslo asesiadau
allanol ar gyfer 2021. Yng ngoleuni’r penderfyniad hwn, cytunodd y Pwyllgor i
gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. Yn ogystal,
cytunodd y Pwyllgor i gau dwy ddeiseb arall sy'n casglu llofnodion ar hyn o
bryd oherwydd bod y camau y maent yn gofyn amdanynt eisoes wedi'u cymryd:
Canslo asesiadau allanol ar ffurf arholiadau ar gyfer TGAU yn 2021 ac ymddiried
yn ein hathrawon ac Ail-werthuso ac egluro’r sefyllfa o ran asesiadau TGAU,
Safon UG a Safon Uwch. |
|
P-05-1135 Cyllid wedi'i dargedu ar gyfer canolfannau addysg awyr agored preswyl, sydd bellach yn methu â gweithredu am 12 mis. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ofyn am ymateb i gynigion a
chwestiynau pellach y deisebydd gan y Llywodraeth ac, o ystyried bod y Senedd
hon ar fin dod i ben, trosglwyddo'r ddeiseb i'r Pwyllgor Deisebau nesaf i'w
thrafod ymhellach yng ngoleuni'r sefyllfa bryd hynny. |
|
P-05-1136 Dylid caniatáu i drigolion Cymru deithio i bysgota yr un fath â'n cymheiriaid yn Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd, yng ngoleuni'r ffaith bod y
safbwyntiau a fynegwyd wedi'u codi gyda Llywodraeth Cymru ac y bydd cyfarfod
olaf y Pwyllgor hwn yn cael ei gynnal yn fuan ar ôl yr adolygiad nesaf o'r
rheoliadau, nad oes fawr ddim yn fwy y gallai ei wneud ar yr adeg hon. Cytunodd
y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-1139 Dylid ymestyn rhyddhad treth stamp yn dilyn cyhoeddi rhagor o gyfyngiadau symud Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor
y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd, yng ngoleuni ail-ddatganiad y Gweinidog
o'r dyddiad cau cyfredol, sef 31 Mawrth a’r ffaith bod y Senedd hon ar fin dod
i ben, nad oes unrhyw gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd ar hyn o
bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau a diolch i’r deisebydd. DS. Yn fuan yn
dilyn y cyfarfod, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad i gyfnod gostwng treth
dros dro y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau sy'n cael eu cwblhau
rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Mehefin 2021, yn dilyn penderfyniad tebyg a wnaed yn
Lloegr fel rhan o gyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU. |
|
P-05-1111 Rhowch y £7 miliwn yn ôl yn y gronfa Trawsnewid Iechyd Meddwl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i roi cyfle pellach i'r
deisebydd wneud sylwadau ynghylch ymateb Llywodraeth Cymru, gyda'r bwriad o
gau'r ddeiseb yn ei gyfarfod olaf ar 16 Mawrth os na ddaw sylwadau i law. |
|
P-05-1125 Dylai deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion fod yn destun dadl, nid cael eu hystyried ar gyfer dadl yn unig Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni’r ffaith bod y Senedd hon
ar fin dod i ben, trafod y mater hwn fel rhan o'i waith gwaddol ai argymhellion
ar gyfer y Chweched Senedd, gan gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd y ddeiseb ac ymateb y Gweinidog, gan
gynnwys y ffaith ei bod yn aros i ymchwil gael ei chyhoeddi i brofiad
lesddaliad yng Nghymru cyn gwneud penderfyniadau pellach. O ystyried hyn, ac
etholiad y Senedd sydd ar fin cael ei gynnal, cytunodd y Pwyllgor i
drosglwyddo'r ddeiseb i'r pwyllgor olynol sy’n ei olynu ei thrafod ymhellach yn
y Chweched Senedd. |
|
P-05-1130 Dylai Llywodraeth Cymru ail-brynu ac adnewyddu Coleg Harlech Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd ar y camau a ganlyn: ysgrifennu at y
deisebwyr i nodi'r amser cyfyngedig iawn sy'n weddill yn nhymor presennol y
Senedd a throsglwyddo’r ddeiseb i'r pwyllgor sy’n ei olynu ei thrafod yn y
Chweched Senedd. |
|
P-05-1131 Rhoi terfyn ar unwaith ar waith carthu oddi ar arfordir Gŵyr, nes y ceir gwerthusiad o’r effeithiau andwyol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ddarparu'r wybodaeth bellach a
gafwyd gan y deisebydd i'r Tîm Trwyddedu Morol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, gan
ofyn iddo edrych ar yr arsylwadau a wnaed a chysylltu'n uniongyrchol â'r
deisebydd. Gan mai rôl
Cyfoeth Naturiol Cymru yw monitro a gorfodi, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer
mwy y gallai'r Pwyllgor ei wneud y tu hwnt i hynny, ac felly cytunodd i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i aros am farn y deisebydd ar yr
ymateb a gafwyd gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol cyn
penderfynu a ellid cymryd camau pellach ynglŷn â'r ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-934 Trafnidiaeth Gyhoeddus ym Mlaenau Gwent Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd, oherwydd bod cefnogaeth a
pholisïau lleol ar gyfer gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ym Mlaenau Gwent
yn fater i'r awdurdod lleol ac mai’r ffordd orau o’u dwyn ymlaen fyddai drwy
graffu gan ei aelodau a'i bwyllgorau ei hun, i gau'r ddeiseb a diolch i'r
deisebydd. Wrth wneud hynny,
cytunodd yr Aelodau i anfon cwestiynau pellach y deisebydd at Gyngor
Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent a gofyn i'r Cyngor ymgysylltu'n uniongyrchol â
Chymuned Fusnes Ebwy Fawr ar y materion a godwyd. |
|
P-05-1067 Caniatáu i bob siop sy’n gwerthu eitemau dianghenraid barhau i fasnachu yn ystod y cyfnod cyfyngiadau 17 diwrnod Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog, ac yng ngoleuni'r ffaith na
chafwyd unrhyw ymatebion gan y deisebydd, a'r awgrym bod ystyriaeth yn cael
rhoi i ail-agor siopau manwerthu nad ydynt yn rhai hanfodol ym mis Mawrth,
cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
|
P-05-942 Yr Awr Euraidd wrth Ddioddef Strôc – Amseroedd Ymateb Ambiwlansiau i’w hailgategoreiddio o Statws Oren yn ôl i Statws Coch Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i gau'r ddeiseb ar y pwynt hwn
yng ngoleuni'r wybodaeth a gafwyd gan y Gymdeithas Strôc, a diolch i'r
deisebydd. |
|
P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â’r hyn a geir yng ngweddill y DU. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a chytunodd i oedi’r ddeiseb fel y gall y
Pwyllgor, neu’r un sy’n ei olynu, drafod diweddariad pellach gan y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl iddo ystyried cyngor newydd. |
|
P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff
ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19. Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd ar y gweill
ar 3 Mawrth, a chytunodd y dylid cau'r deisebau yn dilyn y ddadl, o ystyried y
bydd y Pwyllgor wedi gwneud popeth yn ei allu i godi proffil y mater hwn ac yng
nghyd-destun y cyngor a'r argymhellion y mae’r JCVI yn eu rhoi. |
|
P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion
yr Heddlu fel blaenoriaeth. Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd ar y gweill
ar 3 Mawrth, a chytunodd y dylid cau'r deisebau yn dilyn y ddadl, o ystyried y
bydd y Pwyllgor wedi gwneud popeth yn ei allu i godi proffil y mater hwn ac yng
nghyd-destun y cyngor a'r argymhellion y mae’r JCVI yn eu rhoi. |
|
P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â P-05-1089 Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau’r
GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, yr ymateb pellach gan y Gweinidog a'i
ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r holl opsiynau’n agored pan gaiff
argymhellion yr adolygiad cyflog annibynnol eu gwneud. Fodd bynnag, o ystyried
y ffaith na ddisgwylir hyn tan fis Mai 2021 ac mai Llywodraeth y DU sy’n
pennu’r amserlenni, nid yw’r Pwyllgor yn gallu gwneud llawer mwy ar hyn o bryd.
Felly, pwysleisiodd yr Aelodau eu cefnogaeth a chytunwyd i gau'r deisebau a
diolch i'r deisebwyr. |
|
P-05-1089 Dylai Cymru arwain ar ddod â chyflogau’r GIG nôl i fod yn unol â chostau chwyddiant dros y 10 mlynedd diwethaf Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafodwyd y
ddeiseb hon ochr yn ochr â deiseb P-05-1052 Rhowch godiad cyflog i nyrsys yn
unol â’r hyn a roddir i staff rheng flaen eraill yn ystod pandemig COVID-19 Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, yr ymateb pellach gan y Gweinidog a'i
ymrwymiad y bydd Llywodraeth Cymru yn cadw'r holl opsiynau’n agored pan gaiff
argymhellion yr adolygiad cyflog annibynnol eu gwneud. Fodd bynnag, o ystyried
y ffaith na ddisgwylir hyn tan fis Mai 2021 ac mai Llywodraeth y DU sy’n
pennu’r amserlenni, nid yw’r Pwyllgor yn gallu gwneud llawer mwy ar hyn o bryd.
Felly, pwysleisiodd yr Aelodau eu cefnogaeth a chytunwyd i gau'r deisebau a
diolch i'r deisebwyr. |
|
P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, yng ngoleuni'r ddadl a gynhaliwyd yn y
Cyfarfod Llawn ar y pwnc, y gwaith craffu gan un o bwyllgorau eraill y Senedd
arall a’r ffaith bod y Senedd hon ar fin dod i ben, cytunodd yr Aelodau i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1081 Sicrhau bod perchnogion ail gartrefi a thai gwyliau ar rent yng Nghymru yn pleidleisio yn eu prif gyfeiriad yn unig, mewn etholiadau datganoledig a lleol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, yng ngoleuni'r ffaith ei bod yn rhy
hwyr i wneud unrhyw newidiadau mewn perthynas ag etholiad y Senedd 2021 a'r
ymatebion a gafwyd, gan gynnwys y ffaith y bydd y Comisiwn Etholiadol yn llunio
adroddiad statudol yn dilyn yr etholiad yn cynnwys cytunwyd ar argymhellion ar
gyfer etholiadau yn y dyfodol, nid yw’r Pwyllgor yn gallu gwneud llawer mwy ar
hyn o bryd. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebwyr. |
|
P-05-949 ARBED YR HEN YSGOL GANOLRADD I FERCHED Y BONT-FAEN RHAG EI DYMCHWEL Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ddiweddariad gan y deisebydd. Yng ngoleuni'r penderfyniadau a wnaed
gan Cadw a'r Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i beidio â chefnogi
rhestru'r adeilad yn unol â chais y deisebwyr, a'r atebion a gafwyd i’w
gohebiaeth flaenorol ar y mater hwn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod yn
debygol nad yw’n gallu gwneud llawer mwy ynghylch y ddeiseb. Cytunodd i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. Nb. Following the meeting, in light of new information,
the Committee agreed to refer the petition for further consideration by its
successor committee in the next Senedd term. D.S. Yn dilyn y cyfarfod, yng ngoleuni gwybodaeth newydd,
cytunodd y Pwyllgor i gyfeirio’r ddeiseb i’w thrafod ymhellach gan y Pwyllgor
olynol yn nhymor nesaf y Senedd. |
|
P-05-1075 Peidiwch â gosod terfyn o 15 person ar weithgareddau dan do wedi'u trefnu – fel gwersi nofio a dosbarthiadau ffitrwydd – ar ôl y cyfnod atal byr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law. Yng ngoleuni'r cyfyngiadau parhaus a'r
arwyddion diweddar y gallai’r rhain gael eu codi dros yr wythnosau nesaf, yn
ogystal â'r wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i gwestiwn blaenorol y Pwyllgor
a'r diffyg cyswllt pellach gyda'r deisebydd, cytunodd yr Aelodau i gau'r
ddeiseb. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer y busnes a ganlyn: Etem 5. Cofnodion: Derbyniwyd y
cynnig. |
|
Trafod yr adroddiad drafft - P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr adroddiad drafft, cytunodd ar rai diwygiadau a chytunodd y byddai'n
cytuno ar fersiwn derfynol o'r adroddiad y tu allan i'r Pwyllgor. |