P-05-1128 Canslo 'asesiadau' allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig

P-05-1128 Canslo 'asesiadau' allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1128 Canslo 'asesiadau' allanol ar gyfer cymwysterau Uwch Gyfrannol a Safon Uwch yn 2021 a defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon yn unig

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Levi Phillips, ar ôl casglu cyfanswm o 8,728 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae pethau wedi bod yn anodd iawn i fyfyrwyr eleni ac mae hynny wedi arwain at hunan-barch isel a phroblemau iechyd meddwl. Prin bod myfyrwyr wedi bod mewn ystafell ddosbarth ac eto, mae disgwyl i ni sefyll asesiadau a gaiff eu gosod yn allanol er nad ydym wedi cael gwybod fawr ddim am y rhain. Nid ydym yn dysgu yn ein cartrefi. Pan fyddaf yn mynd i'r ysgol rwy'n ymwybodol ei bod hi'n amser dysgu ond mae dysgu yn ein cartrefi’n wahanol iawn i ddysgu mewn ystafell ddosbarth lle rydych chi wyneb yn wyneb ag athro neu athrawes.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Y llynedd, roeddem yn yr ysgol am y rhan fwyaf o’r amser ac eto, cafodd arholiadau eu canslo a gallwn gymharu hyn ag eleni, pan gawsom ein tynnu o’r ysgol yn gyson, mae ysgolion wedi bod ar gau ac yna’u hailagor ac mae myfyrwyr wedi bod yn mewn panig yn gyson oherwydd y teimlad hwnnw o gael eich cadw yn y tywyllwch ac eto, mae rhyw fath o arholiadau rydych chi’n eu galw'n 'asesiadau' yn dal i fynd rhagddynt. Mae Lloegr bellach wedi penderfynu defnyddio graddau a aseswyd gan athrawon, sy'n benderfyniad anhygoel, ac sy'n dangos eu bod yn gwerthfawrogi myfyrwyr eu gwlad ac sy'n dangos eu bod yn parchu athrawon ac yn ymddiried ynddynt. Credaf y dylem efelychu penderfyniad Lloegr i helpu i leddfu’r pryder y mae pob myfyriwr ar hyd a lled Cymru yn ei deimlo ar hyn o bryd. Mae myfyrwyr yn teimlo diffyg cysylltiad â’r llywodraeth gan ei bod yn ymddangos nad yw’n poeni amdanom. Nid ydym yn gwybod beth i adolygu ar ei gyfer! Nid ydym yn gwybod beth sydd o'n blaenau yn yr “amseroedd digynsail” hyn! Ac nid ydym yn gwybod a yw ein llywodraeth o’n plaid ni ynteu yn ein herbyn ni!

 

 

 

A  student writing an exam

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i nodi'r ddeiseb a'r penderfyniad y mae Llywodraeth Cymru wedi’i wneud ers hynny i ganslo asesiadau allanol ar gyfer 2021. Yng ngoleuni’r penderfyniad hwn, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Rhondda
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 11/02/2021