P-05-1118 Gadewch i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen gefnogaeth o dan gyfyngiadau Covid Haen 4 newydd
P-05-1118 Gadewch i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen gefnogaeth o dan gyfyngiadau Covid Haen 4 newydd
P-05-1118 Gadewch i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen
gefnogaeth o dan gyfyngiadau Covid Haen 4 newydd
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Megan Chhabra, ar ôl casglu cyfanswm o 8,518 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
Lloegr wedi cyflwyno rheolau i ganiatáu i rieni plant dan 1 oed ffurfio swigen
gefnogaeth gydag aelwyd ychwanegol, a hynny ym mhob haen. Hoffwn ddeisebu am i
Gymru roi’r un rheolau ar waith, gan fod llawer o rieni wedi ei chael yn anodd
gofalu am blant ifanc ar eu pennau eu hunain yn ystod y cyfyngiadau. Bydd y
cyfyngiadau newydd yn dod i rym ar 28 Rhagfyr, gan osod Cymru yn haen 4, sy’n
golygu na fydd gan rieni plant ifanc unrhyw gefnogaeth. Dilynwch esiampl Lloegr
i gefnogi rhieni plant ifanc.
Statws
Yn ei gyfarfod ar
02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac yng ngoleuni'r cyhoeddiad diweddar gan
Lywodraeth Cymru i leddfu cyfyngiadau yng Nghymru i ganiatáu i deuluoedd â
babanod ffurfio swigen gydag un cartref arall, cytunodd i gau'r ddeiseb a
diolch i'r deisebydd.
Gellir gweld
manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau
cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei
hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2021