P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon
Cyflenwi
Cyflwynwyd y
ddeiseb hon gan Sheila Jones, ar ôl casglu 997 o lofnodion ar-lein a 428 o
lofnodion ar bapur, cyfanswm o 1,425 o lofnodion.
Geiriad
y ddeiseb
Rydym ni, sydd wedi
llofnodi isod, yn galw am i athrawon cyflenwi gael eu talu'n deg a chael mynediad
llawn at gyfleoedd hyfforddi a thelerau ac amodau eraill. Dylai fod athro
cymwys ym mhob ystafell ddosbarth a dylai arian trethdalwyr fod yn cael ei
wario'n uniongyrchol ar addysg, heb fynd i bocedi asiantaethau preifat.
Mae athrawon
cyflenwi'n cael cam ac mae athrawon yn gadael y proffesiwn oherwydd na allant
fforddio bod yn athrawon cyflenwi.
Mae asiantaethau'n
lleihau cyflog athrawon cyflenwi 40 i 60 y cant ac mae athrawon yn colli eu
pensiynau. Mae'r sefyllfa'n enghraifft o ddefnyddio arian cyhoeddus i greu elw
i'r sector preifat. Mae gwersi'n cael eu darparu gan staff anghymwys.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 01/05/2018.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Caerffili
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 16/04/2018
Dogfennau