P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19

P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1119 Blaenoriaethu athrawon, a staff ysgolion a gofal plant ar gyfer brechiadau COVID-19

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Jonathan Môn Hughes, ar ôl casglu cyfanswm o 16,288 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Gan fod llawer o blant sy'n dal COVID-19 yn dangos dim symptomau, yn aml mae'r feirws yn lledaenu mewn ysgolion heb i unrhyw un wybod nes bod aelod o staff yn datblygu symptomau.

 

Bydd staff y GIG yn cael brechiad gan eu bod yn peryglu eu bywydau. Mae staff ysgolion a gofal plant hefyd yn peryglu eu bywydau ond nid ydynt cael eu blaenoriaethu ar gyfer brechiad.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Ers mis Medi:

- mae mwy na 2,120 aelod o staff ysgolion wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19.

- mae mwy na 3,030 o ddisgyblion wedi cael prawf positif ar gyfer COVID-19.

- mae mwy na 1,570 o ysgolion wedi nodi o leiaf un achos o’r coronafeirws.

 

blue and white plastic bottle

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd ar y gweill ar 3 Mawrth, a chytunodd y dylid cau'r deisebau yn dilyn y ddadl, o ystyried y bydd y Pwyllgor wedi gwneud popeth yn ei allu i godi proffil y mater hwn ac yng nghyd-destun y cyngor a'r argymhellion y mae’r JCVI yn eu rhoi.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ynys Môn
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2021