P-05-1125 Dylai deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion fod yn destun dadl, nid cael eu hystyried ar gyfer dadl yn unig
P-05-1125 Dylai deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion fod yn destun dadl, nid cael eu hystyried ar gyfer dadl yn unig
P-05-1125 Dylai deisebau sydd â dros 5,000 o lofnodion
fod yn destun dadl, nid cael eu hystyried ar gyfer dadl yn unig
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martin Obbard, ar ôl casglu cyfanswm o 69 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Os
oes gan ddeiseb gefnogaeth 5,000 neu fwy, nid oes rhaid iddi fod yn destun dadl
yn y Senedd; cael ei 'hystyried' ar gyfer dadl yn unig y mae.
Holl
reswm deisebau yw cyfleu llais y cyhoedd. Ar hyn o bryd, os yw deiseb yn cael
ei chefnogi'n gryf gyda dros 5,000, dim ond cael ei 'hystyried' ar gyfer dadl y
mae.
Mae’n
amlwg bod deiseb gyda'r fath gefnogaeth o ddiddordeb i’r cyhoedd, ac felly fe
gredaf y dylai fod yn destun dadl bob tro, i sicrhau bod barn y bobl yn cael ei
hystyried.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb
hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni’r ffaith
bod y Senedd hon ar fin dod i ben, trafod y mater hwn fel rhan o'i waith
gwaddol ai argymhellion ar gyfer y Chweched Senedd, gan gau'r ddeiseb a diolch
i'r deisebydd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Sir Drefaldwyn
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2021