P-05-1136 Dylid caniatáu i drigolion Cymru deithio i bysgota yr un fath â'n cymheiriaid yn Lloegr

P-05-1136 Dylid caniatáu i drigolion Cymru deithio i bysgota yr un fath â'n cymheiriaid yn Lloegr

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1136 Dylid caniatáu i drigolion Cymru deithio i bysgota yr un fath â'n cymheiriaid yn Lloegr

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Matthew Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 2,519 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae pysgotwyr Cymru wedi cael llond bol ar gael eu trin yn wahanol i'r rheini yn Lloegr.

 

Ar hyn o bryd, ni chaniateir i ni deithio'n lleol i wneud ymarfer corff. Caniateir i bobl Lloegr sy’n syrthio oddi fewn i haen 4 deithio, a dyna’r achos pan eu bod yn syrthio oddi fewn i haen 5, hyd yn oed.

 

Rydym ni fel pysgotwyr yn deall y peryglon sy’n gysylltiedig â phandemig COVID-19, ond mae pysgotwyr yn defnyddio'r amser hwn i gynnal eu lles meddyliol, eu gallu i ganolbwyntio ac i leihau eu lefelau o straen. Dylid rhoi’r hawl eto i bawb ymgymryd â’r gamp hon, sy’n cadw pellter cymdeithasol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

https://canalrivertrust.org.uk/enjoy-the-waterways/fishing/places-to-fish/seven-reasons-why-fishing-is-good-for-you#:~:text=Fishing%20reduces%20stress,stress%20disorder%20and%20other%20illnesses.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd, yng ngoleuni'r ffaith bod y safbwyntiau a fynegwyd wedi'u codi gyda Llywodraeth Cymru ac y bydd cyfarfod olaf y Pwyllgor hwn yn cael ei gynnal yn fuan ar ôl yr adolygiad nesaf o'r rheoliadau, nad oes fawr ddim yn fwy y gallai ei wneud ar yr adeg hon. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Abertawe
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2021