P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
P-05-1132 Cychwyn Ymchwiliad Barnwrol Annibynnol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Y
Cynghorydd Mike Powell, ar ôl casglu cyfanswm o 126
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar
15-17 Ionawr 2019, fe wnaeth adroddiad gan Goleg Brenhinol y Bydwragedd a
Choleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr daflu goleuni ar
ddigwyddiadau difrifol a gofidus yn y ddarpariaeth famolaeth o dan reolaeth
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Rydym
yn ofyn am Ymchwiliad Barnwrol i weld sut y digwyddodd y methiant sylweddol yng
ngwasanaethau mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Rydym
yn galw am yr Ymchwiliad Barnwrol hwn gan nad yw o fewn cylch gwaith yr
adolygiad y gofynnodd Senedd Cymru amdano gan y Panel Trosolwg Annibynnol ar
Wasanaethau Mamolaeth i ddarganfod beth a achosodd y methiant hwn.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
"Cafodd
yr aseswyr fod y gwasanaeth yn gweithio o dan bwysau eithafol ac o dan
arweinyddiaeth glinigol a rheoli nad oedd o’r safon orau. Roedd y canfyddiad
gan y Bwrdd Iechyd o danadrodd am ddigwyddiadau difrifol wedi arwain at fwy o
graffu mewnol ac allanol, sy’n dangos nad oedd prosesau llywodraethu sylfaenol
wedi’u rhoi ar waith yn briodol eto. Roedd disgwyl hefyd y byddai’r gwasanaeth
yn mynd ati’n fuan i gyfuno dwy uned ar wahân dan arweiniad meddyg ymgynghorol
ar un safle ag uned annibynnol dan arweiniad bydwragedd ar y safle arall, heb
dystiolaeth bod timau clinigol yn ymwneud â’r penderfyniad hwn a’r broses ar ei
gyfer ac yn ei gefnogi. Ar ben hyn, gwelwyd bod nifer o swyddi bydwragedd heb
eu llenwi, arweinyddiaeth glinigol nad oedd o’r safon orau, defnydd sylweddol o
staff meddygol locwm ar lefel meddygon iau a meddygon ymgynghorol a diffyg
safonau ymarfer sefydledig."
Statws
Yn ei gyfarfod ar 20/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd
y Pwyllgor fod y Pwyllgor Deisebau blaenorol wedi cytuno i aros i gael
sylwadau’r deisebydd ar ymateb y Gweinidog. Fodd bynnag, gan nad oedd y deisebydd
wedi ymateb, roedd y Pwyllgor yn teimlo nad oedd unrhyw gamau clir y gallai eu
cymryd a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 04/03/2021