P-05-1135 Cyllid wedi'i dargedu ar gyfer canolfannau addysg awyr agored preswyl, sydd bellach yn methu â gweithredu am 12 mis
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Sara Jane Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 1,181 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
canolfannau ledled Cymru wedi gorfod cau eu drysau i ymweliadau ysgolion am o
leiaf 12 mis oherwydd cyfyngiadau’r llywodraeth. Maent wedi cael yr un swm o
gyllid ychwanegol â busnesau eraill, ac eto maent wedi colli bron eu holl
incwm. Mae'r canolfannau hyn nid yn unig yn darparu gwasanaethau addysgol
hanfodol, maent hefyd yn fewnfuddsoddiad sylweddol i rannau gwledig Cymru ac yn
dod â llawer o swyddi medrus. Heb gymorth ariannol bydd llawer yn cau, gan
adael ardaloedd gwledig, cyflenwyr, gwasanaethau a masnachau lleol wedi’u
distrywio.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae
llywodraeth yr Alban wedi cyhoeddi cronfa gwerth £2 filiwn ar gyfer canolfannau
yn yr Alban i’w helpu i oroesi’r pandemig. Er mwyn cyflawni'r un peth yng
Nghymru, byddai angen pecyn gwerth £10 miliwn. Mae'r canolfannau hyn yn rhan
fwy o'r economi yng Nghymru nag yn yr Alban. Yng Ngogledd Cymru yn unig, incwm
blynyddol y canolfannau hyn yw tua £50 miliwn, sy'n cefnogi 900 o swyddi. Bydd
y ffigur cenedlaethol ar gyfer Cymru yn fwy na dwbl hyn. https://www.gov.scot/news/residential-outdoor-education-centres-fund-opens/
Statws
Yn ei gyfarfod ar 13/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Ystyriodd
y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law, a chytunwyd nad oedd fawr ddim arall y
gallai'r Pwyllgor ei wneud ar hyn o bryd, a nododd y dylai'r Aelodau lleol
ystyried y mater hwn yn awr, a chytunwyd i roi manylion i'r deisebydd ar sut i
gysylltu â'i Aelod(au) lleol. Felly, cytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd.
Gellir
gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r
dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd
ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Dwyfor Meirionydd
- Canolbarth a Gorllewin Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2021