P-05-1131 Rhoi terfyn ar unwaith ar waith carthu oddi ar arfordir Gwyr, nes y ceir gwerthusiad o'r effeithiau andwyol

P-05-1131 Rhoi terfyn ar unwaith ar waith carthu oddi ar arfordir Gwyr, nes y ceir gwerthusiad o'r effeithiau andwyol

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1131 Rhoi terfyn ar unwaith ar waith carthu oddi ar arfordir Gŵyr, nes y ceir gwerthusiad o’r effeithiau andwyol

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Kerry Lord, ar ôl casglu cyfanswm o 63 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Yn dilyn dechrau'r gwaith carthu ym Mae Rhosili, bu tywod yn disbyddu i raddau sylweddol a difrifol ar draeth cyfagos Rhosili. Mae'r ardal hon – sydd o bwysigrwydd rhyngwladol – yn cynnwys systemau twyni cysylltiedig y bydd disbyddu tywod hefyd yn effeithio'n andwyol arnynt. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi terfyn ar waith carthu ar unwaith nes y cynhelir adolygiad gwyddonol o'r disbyddu tywod a’r hyn sydd, o bosibl, yn ei achosi, er mwyn osgoi difrod parhaol a cholli cynefinoedd.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Yn ôl tystiolaeth anecdotaidd, er gwaethaf y tywydd cymharol fwyn dros dymor yr haf 2020 hyd yn hyn, mae lefelau tywod ar draeth Rhosili wedi disbyddu’n ddifrifol. At hynny, ymddengys fod niferoedd sylweddol uwch o weddillion cregyn molysgiaid (fel cocos, cregyn gleision, cyllyll môr, wystrys, ac ati) yn ogystal â chynnydd enfawr yn y niwed i sêr môr. Gyda thymor stormydd yr hydref a'r gaeaf ar y gweill, gallai’r sefyllfa ddatblygu i fod yn drychinebus i'r ecosystemau hynod fregus sy'n dibynnu ar ddyddodion tywod naturiol. Er y gallai fod yn gyd-ddigwyddiad bod gwaith carthu wedi digwydd ar yr un pryd â disbyddu tywod anarferol o helaeth yn Rhosili, mae'n hanfodol bod y gwaith carthu yn cael ei ohirio ar unwaith fel bod cyfle i astudiaeth wyddonol swyddogol werthuso’r achosion tebygol.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ddarparu'r wybodaeth bellach a gafwyd gan y deisebydd i'r Tîm Trwyddedu Morol yn Cyfoeth Naturiol Cymru, gan ofyn iddo edrych ar yr arsylwadau a wnaed a chysylltu'n uniongyrchol â'r deisebydd.

 

Gan mai rôl Cyfoeth Naturiol Cymru yw monitro a gorfodi, cytunodd y Pwyllgor nad oes llawer mwy y gallai'r Pwyllgor ei wneud y tu hwnt i hynny, ac felly cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gŵyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 22/02/2021