P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai

P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1032 Deddfu i atal newid enwau Cymraeg tai

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robin Aled Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 18,103 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

​Mae ‘na batrwm hyd a lled Cymru lle mae perchnogion newydd yn newid enwau tai i’r Saesneg.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

​Sydd rhaid mynd yn bell i weld tystiolaeth!

 

Mae’r wlad yn colli ei etifeddiaeth mewn camau bychain.

 

Rhaid atal hyd i’r cenedlaethau sydd i ddod, beth bynnag eu iaith.

 

A large brick building

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law ac, yng ngoleuni'r ddadl a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar y pwnc, y gwaith craffu gan un o bwyllgorau eraill y Senedd arall a’r ffaith bod y Senedd hon ar fin dod i ben, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 17/11/2020.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/10/2020