P-05-1124 Caniatáu i ddau unigolyn o ddwy aelwyd wahanol gwrdd ar gyfer ymarfer corff yn haen 4

P-05-1124 Caniatáu i ddau unigolyn o ddwy aelwyd wahanol gwrdd ar gyfer ymarfer corff yn haen 4

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1124 Caniatáu i ddau unigolyn o ddwy aelwyd wahanol gwrdd ar gyfer ymarfer corff yn haen 4

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Laura Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 847 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae cyfyngiadau haen 4 newydd yn golygu bod yn rhaid inni ymarfer corff ar ein pennau ein hunain neu gydag aelodau o'n cartref. Fel rhedwr, rwy'n tueddu i wneud y gweithgareddau hyn gyda ffrindiau er mwyn dod allan o’r rhigol (gan nad yw fy mhartner yn mwynhau'r gweithgareddau hyn, mae’n rhaid imi eu gwneud ar fy mhen fy hun bellach). Bydd caniatáu i ddau berson o ddwy aelwyd wahanol gwrdd yn hybu llesiant ac iechyd meddwl da yn ystod y cyfnod anodd hwn.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae cyfyngiadau haen 4 yn Lloegr yn caniatáu hyn.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd fod yr yn yr oedd ddeiseb yn gofyn amdano bellach wedi'i gyflawni. Cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Arfon
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 01/02/2021