P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth

P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1117 Rhowch y Brechlyn COVID i Swyddogion yr Heddlu fel blaenoriaeth

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Graham Bishop, ar ôl casglu cyfanswm o 10,879 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Nid yw swyddogion yr heddlu ar y rhestr flaenoriaeth i gael y brechlyn COVID-19, er eu bod mewn swyddi risg uchel.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae fy mab yn heddwas a gafodd ei heintio â COVID wrth arestio aelod o'r cyhoedd. Ar hyn o bryd, mae wedi bod i ffwrdd o'r gwaith am 4 wythnos a phennwyd na fydd yn dychwelyd tan ddiwedd mis Rhagfyr. Trosglwyddodd y feirws i'w wraig oedd yn feichiog iawn, ac aeth hi yn ei thro i’r ward COVID yn yr ysbyty. Bu'n rhaid iddi gael toriad Cesaraidd ar frys, a ganed yr efeilliaid ddeufis yn rhy gynnar. Dyw’r heddlu ddim yn unig yn peryglu eu hunain o ddydd i ddydd, maen nhw hefyd yn peryglu eu teuluoedd. At hynny, mae colli amser plismona’n gryn straen ar yr heddlu pan fod ei swyddogion adre’n sâl gyda COVID.

 

blue and white plastic bottle

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd cyn y ddadl yn y Cyfarfod Llawn sydd ar y gweill ar 3 Mawrth, a chytunodd y dylid cau'r deisebau yn dilyn y ddadl, o ystyried y bydd y Pwyllgor wedi gwneud popeth yn ei allu i godi proffil y mater hwn ac yng nghyd-destun y cyngor a'r argymhellion y mae’r JCVI yn eu rhoi.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/02/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 21/01/2021