P-05-1111 Rhowch y £7 miliwn yn ôl yn y gronfa Trawsnewid Iechyd Meddwl
P-05-1111 Rhowch y £7 miliwn yn ôl yn y gronfa Trawsnewid Iechyd Meddwl
P-05-1111 Rhowch y £7 miliwn yn ôl yn y gronfa Trawsnewid
Iechyd Meddwl
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Dr Jen Daffin, ar ôl casglu cyfanswm o 255 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Cyhoeddwyd
yr adroddiad Cadernid Meddwl o ganlyniad i ymchwiliad eang i iechyd emosiynol ac
iechyd meddwl. Mae'n nodi bod angen brys i fuddsoddi mewn gwasanaethau ataliol,
system gyfan ac ymyrraeth gynnar.
Mae
dirfawr angen diwygio a moderneiddio gwasanaethau iechyd meddwl. Bydd tynnu £7
miliwn o'r gronfa hon yn oedi’r newid hwn.
Gwybodaeth
Ychwanegol
Yn 2018, llofnododd 93 o Seicolegwyr,
Therapyddion, Cynghorwyr a phobl sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl yng
Nghymru lythyr yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu'r newidiadau a argymhellir
yn adroddiad Cadernid Meddwl - http://www.psychchange.org/support-the-mind-over-matter-report.html
Mae'r pandemig byd-eang wedi effeithio ar bawb.
Mae llawer ohonom wedi wynebu trallod oherwydd COVID-19, a bydd llawer yn
parhau i’w wynebu. Fodd bynnag, bydd yr effaith cryn dipyn yn fwy ar bobl sydd
hefyd yn wynebu unigedd, ansicrwydd am eu swyddi, tlodi bwyd, neu sy'n byw ar
aelwyd gamdriniol neu aelwyd dan straen.
Mae blynyddoedd cynnar bywyd yn hanfodol, ond
mae plant yn byw mewn amgylchiadau na allant eu newid. Ni allant feddwl eu
ffordd allan o’u problemau; maent yn dibynnu ar yr oedolion a'r gymuned o'u
cwmpas.
Enw arall ar y gronfa trawsnewid iechyd meddwl
yw’r Gronfa Gwella Gwasanaethau Iechyd Meddwl. Y gronfa honno y cyfeirir ati yn
y ddeiseb hon.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon
wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl ddeisebau sy'n cael eu
hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor Deisebau yn y Bumed
Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth a roddwyd i'r mater
hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei hystyried
gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Gogledd Caerdydd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: Wedi’i gwblhau
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2021