P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
David Bradley, ar ôl casglu cyfanswm o 561 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym
yn galw ar y Senedd i annog Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cyllid ar gael i
alluogi pobl o Gymru sydd wedi colli rhan o’u corff i gael technoleg brosthetig
sydd o leiaf cystal â'r hyn sydd ar gael yng ngwasanaethau iechyd gwladol
Lloegr a'r Alban. Gofynnwn am i'r un lefel o gefnogaeth fod ar gael i bobl sy'n
byw yng Nghymru. Mae GIG yr Alban wedi darparu aelodau prosthetig a reolir gan
ficrobrosesydd ers sawl blwyddyn, ac mae GIG Lloegr wedi eu darparu er 2016.
Mae polisi Cymru i fod i gael ei adolygu er 2017.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Hanes
y Deisebydd
Fel
person ffit yn tynnu am fy 60 oed, un prynhawn Gwener ym mis Mawrth 2018, pan
oeddwn yn y gwaith, fe gefais i anewrysm yn fy nghoes dde. Dros yr wyth diwrnod
nesaf, cefais dair llawdriniaeth fawr wrth i dîm proffesiynol iawn geisio achub
fy nghoes, ei hachub o dan y pen-glin, ac yna ei hachub uwchben y pen-glin.
Llwyddodd y llawdriniaeth ddiwethaf a thorrwyd fy nghoes i ffwrdd ychydig
uwchben y pen-glin.
Cefais
fy nghyflwyno i’r Ganolfan Aelodau Artiffisial a Chyfarpar yn Ysbyty Rookwood,
ac yno y cychwynnodd fy nhaith yn ôl i'r gwaith. Fe wnaethant ddylunio a gosod
aelod prosthetig, a thrwy ffisiotherapi rheolaidd, roeddwn yn cerdded, ac yn ôl
yn y gwaith erbyn diwedd yr haf. Diolch yn fawr, gwasanaeth gwych.
Am
sawl blwyddyn mae anghysondeb sylweddol wedi bod o ran y math o brostheteg sydd
ar gael i bobl anabl Cymru.
Gan
y bydd yn rhaid i mi dreulio gweddill fy oes yn defnyddio coes brosthetig,
hoffwn gael yr un cyfle â thrigolion gweddill y DU, a hoffwn i bob person arall
yng Nghymru sydd wedi colli aelod o’u corff gael y cyfle hwnnw hefyd.
Peidiwch
â gwahaniaethu. Rhowch yr un safon i drigolion anabl Cymru.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/07/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunodd fod y ddeiseb
wedi cyflawni ei nod o sicrhau bod technoleg prosthetig yn gyfartal â'r hyn
sydd ar gael o fewn GIG Lloegr a'r Alban. Cytunodd felly i gau'r ddeiseb a
llongyfarch y deisebydd ar y canlyniad cadarnhaol a gafwyd.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 15/09/2020.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Mynwy
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 03/08/2020