P-05-1075 Peidiwch â gosod terfyn o 15 person ar weithgareddau dan do wedi'u trefnu - fel gwersi nofio a dosbarthiadau ffitrwydd - ar ôl y cyfnod atal byr

P-05-1075 Peidiwch â gosod terfyn o 15 person ar weithgareddau dan do wedi'u trefnu - fel gwersi nofio a dosbarthiadau ffitrwydd - ar ôl y cyfnod atal byr

Wedi;i gwblhau

 

P-05-1075 Peidiwch â gosod terfyn o 15 person ar weithgareddau dan do wedi'u trefnu – fel gwersi nofio a dosbarthiadau ffitrwydd – ar ôl y cyfnod atal byr

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sean McCue, ar ôl casglu cyfanswm o 2,394 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae gweithgareddau a chwaraeon yn rhan o'r ateb i Covid. Mae'r wlad hon yn colli'r frwydr yn erbyn gordewdra a’r potensial cynyddol o salwch iechyd meddwl yn fwy eang yn y boblogaeth, ac mae angen ystyried bod gweithgaredd corfforol yn wasanaeth hanfodol.

 

O ganlyniad i gyfyngu ar niferoedd, mae sesiynau’n cael eu gwasgaru ar draws amserlen arferol argaeledd lleoliadau, ac yn cyfyngu ar nifer y sesiynau sydd ar gael i unigolyn.

 

Mae hyn hefyd yn cael effaith ariannol ar glybiau chwaraeon amatur cymunedol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol

Er bod y Grantiau Gweithgareddau Lles wedi'u cyrchu, mae clybiau chwaraeon amatur cymunedol o dan bwysau ariannol difrifol.

 

Ar ôl cyfyngu'r clybiau dan do i 30, gallai gostwng ymhellach i 15 orfodi clybiau chwaraeon amatur cymunedol i aros ar gau.

 

Yr un yw ein rhwymedigaethau ariannol wedi parhau i fod, er enghraifft costau lleoliad, cyflogau hyfforddwyr ac yswiriannau.

 

Does yr un o'r rhain wedi lleihau felly mae ein costau y pen wedi cynyddu, ac mae'n anochel y byddant nawr yn dyblu, o leiaf, unwaith eto os bydd y terfyn hwn o 15 person ar chwaraeon dan do yn mynd rhagddo.

 

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law. Yng ngoleuni'r cyfyngiadau parhaus a'r arwyddion diweddar y gallai’r rhain gael eu codi dros yr wythnosau nesaf, yn ogystal â'r wybodaeth a ddarparwyd mewn ymateb i gwestiwn blaenorol y Pwyllgor a'r diffyg cyswllt pellach gyda'r deisebydd, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 12/01/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Dyffryn Clwyd
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 10/12/2020