P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad
P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Mark Habberfield, ar ôl casglu cyfanswm o 425 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar
21 Gorffennaf 2020 cyhoeddwyd y tri adroddiad ynghylch llesddaliad a
chyfunddaliad preswyl gan Gomisiwn y Gyfraith (gweler y manylion ychwanegol).
Rydym o’r farn y dylai’r argymhellion o’r adroddiadau hyn gael eu gweithredu ar
unwaith yng nghyfraith Cymru, heb oedi, er mwyn gwella bywydau dros 400,000 o
lesddeiliaid Cymru. Mae dros wyth mlynedd ers i’r Alban arwain y ffordd a
diddymu lesddaliad o’u tai, ac yn sgil yr adroddiad hwn mae gan y Senedd fandad
clir, bellach, i gymhwyso mesurau deddfwriaethol.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
https://www.lawcom.gov.uk/project/residential-leasehold-and-commonhold/
Cyhoeddodd
Comisiwn y Gyfraith dri adroddiad gan argymell diwygiadau i dri maes o fewn y
gyfraith:
(1.)
rhyddfreinio lesddaliad, sef yr hawl i bobl sy'n berchen ar eiddo ar lesddaliad
hir (“lesddeiliaid”) brynu'r rhydd-ddaliad neu ymestyn eu lesddaliad
(2.)
yr hawl i reoli, sy'n hawl i lesddeiliaid gymryd yr awenau o ran rheoli eu
hadeilad heb brynu'r rhydd-ddaliad
(3.)
cyfunddaliad, sy'n caniatáu perchnogaeth rhydd-ddaliadol fflatiau, gan gynnig
ffordd arall o fod yn berchen ar eiddo sy'n osgoi diffygion perchnogaeth
lesddaliadol.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor, o ganlyniad i'r dull a gymerwyd gan
Lywodraeth Cymru ar y mater hwn, nad oedd llawer o gamau pellach y gallai'r
Pwyllgor eu cymryd, gan nodi y byddai'n debygol y bydd rhai amgylchiadau bob
amser yn bodoli lle byddai angen i lesddeiliaid fod ar waith. Cytunodd yr
Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- De Caerdydd a Phenarth
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 15/02/2021