P-05-1139 Dylid ymestyn rhyddhad treth stamp yn dilyn cyhoeddi rhagor o gyfyngiadau symud

P-05-1139 Dylid ymestyn rhyddhad treth stamp yn dilyn cyhoeddi rhagor o gyfyngiadau symud

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1139 Dylid ymestyn rhyddhad treth stamp yn dilyn cyhoeddi rhagor o gyfyngiadau symud

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Andrew Oliver, ar ôl casglu cyfanswm o 79 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Ers atal y dreth stamp dros dro yng Nghymru, gwelwyd hwb i'r economi a chynnydd mewn trafodion eiddo. Drwy ymestyn y rhyddhad hwn a dod â’r trefniant i ben yn raddol, gellid osgoi cwymp disymwth yn y farchnad eiddo, fel sy'n debygol o ddigwydd os daw’r cymorth rhyddhad i ben yn sydyn. Efallai y gallai Llywodraeth Cymru ystyried trefnu bod y rhyddhad yn gymwys i unrhyw drafodion lle cafodd contractau eu cyfnewid cyn 31 Mawrth 2021, gan ganiatáu i unrhyw drafodion sydd eisoes yn yr arfaeth gael eu cwblhau o dan y trefniadau manteisiol.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd, yng ngoleuni ail-ddatganiad y Gweinidog o'r dyddiad cau cyfredol, sef 31 Mawrth a’r ffaith bod y Senedd hon ar fin dod i ben, nad oes unrhyw gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd ar hyn o bryd. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r deisebau a diolch i’r deisebydd.

 

DS. Yn fuan yn dilyn y cyfarfod, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru estyniad i gyfnod gostwng treth dros dro y Dreth Trafodiadau Tir ar gyfer trafodiadau sy'n cael eu cwblhau rhwng 1 Ebrill 2021 a 30 Mehefin 2021, yn dilyn penderfyniad tebyg a wnaed yn Lloegr fel rhan o gyhoeddiad cyllideb Llywodraeth y DU.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Canol Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/02/2021