P-05-1067 Caniatáu i bob siop sy'n gwerthu eitemau dianghenraid barhau i fasnachu yn ystod y cyfnod cyfyngiadau 17 diwrnod

P-05-1067 Caniatáu i bob siop sy'n gwerthu eitemau dianghenraid barhau i fasnachu yn ystod y cyfnod cyfyngiadau 17 diwrnod

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1067 Caniatáu i bob siop sy’n gwerthu eitemau dianghenraid barhau i fasnachu yn ystod y cyfnod cyfyngiadau 17 diwrnod

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Martin Obbard, ar ôl casglu cyfanswm o 56 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Mae Llywodraeth Cymru, fel rhan o’i ‘chyfnod atal byr’ am 17 diwrnod, yn gwahardd siopau rhag gwerthu eitemau dianghenraid.

 

Gan fod adolygiad yn mynd rhagddo ynghylch gwerthu eitemau dianghenraid mewn archfarchnadoedd, dylid caniatáu i bob siop sy’n gwerthu eitemau dianghenraid agor os ydynt yn dymuno. Nid ydym yn cytuno bod hwn yn fesur call na synhwyrol, a bydd yn gwneud mwy o niwed nag o les.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a gafwyd gan y Gweinidog, ac yng ngoleuni'r ffaith na chafwyd unrhyw ymatebion gan y deisebydd, a'r awgrym bod ystyriaeth yn cael rhoi i ail-agor siopau manwerthu nad ydynt yn rhai hanfodol ym mis Mawrth, cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 26/01/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Sir Drefaldwyn
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 26/11/2020