P-05-1123 Codi blaenoriaeth gweithwyr allweddol nad ydynt yn gweithio i'r GIG sy'n wynebu'r cyhoedd wrth gyflwyno'r brechlyn ar gyfer Covid-19

P-05-1123 Codi blaenoriaeth gweithwyr allweddol nad ydynt yn gweithio i'r GIG sy'n wynebu'r cyhoedd wrth gyflwyno'r brechlyn ar gyfer Covid-19

Wedi'i gwblhau

 

P-05-1123 Codi blaenoriaeth gweithwyr allweddol nad ydynt yn gweithio i’r GIG sy’n wynebu'r cyhoedd wrth gyflwyno'r brechlyn ar gyfer Covid-19

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Timothy Richard Woods, ar ôl casglu cyfanswm o 117 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rwy'n beiriannydd telathrebu ac wedi gweithio fel gweithiwr allweddol drwy gydol y pandemig. Fel rhan o’m swydd, mae disgwyl i mi fynd i mewn i dai dan ganllawiau llym i gynnal gwasanaethau hanfodol megis band eang. Rai dyddiau, gallaf fynd i mewn i eiddo tri neu bedwar cwsmer. Gyda straen newydd, mwy heintus o COVID-19 wedi’i gofnodi’n ddiweddar yng Nghymru, mae angen brechu gweithwyr allweddol eraill y tu allan i'r GIG rhag COVID-19 yn gynnar neu maent yn wynebu risg uwch o heintio'r cyhoedd neu ddal y feirws.

 

blue and white plastic bottle

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 02/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac, yng ngoleuni'r cyngor diweddaraf a gafwyd gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI) ynghylch ail gam y rhaglen frechu, sef yn benodol y dylid parhau i flaenoriaethu'r rhaglen yn ôl oedran a bregusrwydd clinigol, cytunodd nad oedd unrhyw beth y gallai gael ei gyflawni ar y ddeiseb ar hyn o bryd. Cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei hystyried gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 02/03/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Ceredigion
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: Wedi’i gwblhau

Cyhoeddwyd gyntaf: 25/01/2021