Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: P Gareth Williams 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 09/01/2023 - Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

Eitemau
Amseriad disgwyliedig Rhif Eitem

(13.30)

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Cofnodion:

Ni chafwyd ymddiheuriadau na dirprwyon.

(13.30 - 13.35)

2.

Offerynnau nad ydynt yn cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

Dogfennau ategol:

2.1

SL(6)300 - Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) (Diwygio) 2022

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ac roedd yn fodlon arno.

(13.35 - 13.40)

3.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Gwneud Negyddol

 

3.1

SL(6)299 – Rheoliadau Hadau (Cywerthedd) (Diwygio) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

3.2

SL(6)304 – Rheoliadau Bwydydd Proses sydd wedi eu Seilio ar Rawn a Bwydydd Babanod ar gyfer Babanod a Phlant Ifanc (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwynt adrodd a nodwyd.

3.3

SL(6)305 – Rheoliadau Rheolaethau Swyddogol (Estyn Cyfnodau Trosiannol) (Diwygio) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad i’r Senedd yn unol â’r pwynt adrodd a nodwyd.

3.4

SL(6)306 – Rheoliadau Marchnata Hadau a Deunyddiau Lluosogi Planhigion (Diwygio) (Cymru) (Ymadael â’r UE) (Rhif 2) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn a chytunodd i gyflwyno adroddiad arno i’r Senedd yn unol â’r pwyntiau adrodd a nodwyd.

 

Offerynnau’r Weithdrefn Penderfyniad Cadarnhaol

 

3.5

SL(6)297 – Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn ynghyd ag ymateb Llywodraeth Cymru, a chytunodd i gyflwyno adroddiad i'r Senedd yn unol â'r pwyntiau adrodd a nodwyd.

(13.40 - 13.45)

4.

Offerynnau sy’n cynnwys materion i gyflwyno adroddiad arnynt i’r Senedd o dan Reol Sefydlog 21.2 neu 21.3 - trafodwyd eisoes

4.1

SL(6)279 - Gorchymyn Iechyd Anifeiliaid (Compartmentau Dofednod a Chrynoadau Anifeiliaid) (Ffioedd) (Cymru) (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

4.2

SL(6)292 - Rheoliadau’r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Diwygio a Swyddogaethau Deddfwriaethol) ac Iechyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

4.3

SL(6)291 - Rheoliadau Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â’r UE) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ymateb gan Lywodraeth Cymru.

(13.45 - 13.50)

5.

Fframweithiau cyffredin

5.1

Adroddiad Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ar Fframweithiau Cyffredin

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor yr adroddiad a’i nodi.

(13.50 - 13.55)

6.

Cytundeb Cysylltiadau Rhyngsefydliadol

6.1

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau Canolfan Wybodaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Trosglwyddo Swyddogaethau, Diddymu a Darpariaethau Trosiannol) 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r llythyr gan y Gweinidog.

6.2

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

6.3

Gohebiaeth gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad: Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) (Diwygio) (Cymru a Lloegr) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Cwnsler Cyffredinol.

6.4

Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Presenoldeb yn y Grŵp Rhyngweinidogol ar yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad a’r llythyr gan y Gweinidog.

6.5

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Cyfarfod y Grŵp Rhyngweinidogol ar Fasnach

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

6.6

Datganiad Ysgrifenedig gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Cyngor y Gweinidogion Addysg

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y datganiad gan y Gweinidog.

(13.55 - 14.05)

7.

Papurau i’w nodi

7.1

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Addysg gartref

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr ohebiaeth gyda’r Gweinidog.

7.2

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes: Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai.

7.3

Gohebiaeth gan y Pwyllgor Cyllid: Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Pwyllgor Cyllid.

7.4

Gohebiaeth gan y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Caffael

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

7.5

Gohebiaeth gan y Prif Weinidog at Bwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig: Ail Brotocol Ychwanegol i Gonfensiwn Cyngor Ewrop ar Seiberdroseddu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Prif Weinidog.

7.6

Gohebiaeth gan Weinidog yr Economi: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

7.7

Gohebiaeth gan y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol: Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Dirprwy Weinidog a chytunwyd i ysgrifennu yn gofyn am eglurhad pellach.

7.8

Gohebiaeth gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg: Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ysgolion

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

7.9

Gohebiaeth gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd Ymwelwyr Tramor) (Diwygio) (Rhif 4) (Cymru) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

7.10

Gohebiaeth gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Rheoliadau Anifeiliaid ac Iechyd Anifeiliaid, Bwyd Anifeiliaid a Bwyd, Planhigion ac Iechyd Planhigion (Diwygio) 2022

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr gan y Gweinidog.

(14.05)

8.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

(14.05 - 14.15)

9.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Esgyll Siarcod: Adroddiad drafft

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor ei adroddiad drafft, a chytunodd i drafod fersiwn ddiwygiedig yn y cyfarfod nesaf.

(14.15 – 14.25)

10.

Y Memoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Bu'r Pwyllgor yn ystyried ei adroddiad drafft ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol Rhif 3 a Rhif 4, a chytunodd arno.

(14.25 – 14.35)

11.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Banc Seilwaith y DU

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Memorandwm Rhif 3) ar Fil Banc Seilwaith y DU, chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn y cyfarfod nesaf.

(14.35 – 14.55)

12.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl)

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) a chytunodd i ystyried ei adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.

(14.55 - 15.05)

13.

Cytundebau rhyngwladol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor gytundebau rhyngwladol perthnasol. Cytunodd i drafod ei adroddiad drafft yn ei gyfarfod nesaf.