Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
Bil Llywodraeth Cymru, a gyflwynwyd
gan Hannah
Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol. Mae'r
Pwyllgor Busnes wedi trosglwyddo'r Bil i'r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol.
Gwybodaeth
am y Bil
Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer:
>>>>
>>>sefydlu Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol;
>>>dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus penodol
i geisio consensws neu gyfaddawd gyda'u hundebau llafur cydnabyddedig (neu os
nad oes undeb llafur cydnabyddedig) cynrychiolwyr eraill o'u staff, wrth bennu
eu hamcanion llesiant a chyflawni'r amcanion hynny o dan adran 3(2) o Ddeddf
Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 (Deddf 2015);
>>>dyletswydd statudol ar Weinidogion Cymru i
ymgynghori â phartneriaid cymdeithasol, cyflogwyr a chynrychiolwyr gweithwyr
drwy'r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol wrth gyflawni eu hamcanion llesiant o
dan adran 3(2)(b) o Ddeddf 2015;
>>>diwygio adran 4 o Ddeddf 2015 drwy roi
'gwaith teg' yn lle 'gwaith addas' yn y nod presennol ynghylch "Cymru
lewyrchus";
>>>dyletswydd statudol ar gyrff cyhoeddus
penodol i ystyried defnyddio prosesau caffael cyhoeddus cymdeithasol gyfrifol,
i bennu amcanion mewn perthynas â nodau llesiant, ac i gyhoeddi strategaeth
gaffael;
>>>gofyniad i gyrff cyhoeddus penodol gyflawni
dyletswyddau rheoli contractau er mwyn sicrhau y rhoddir sylw i ganlyniadau
cymdeithasol gyfrifol drwy gadwyni cyflenwi;
>>>rhoi dyletswyddau ar gyrff cyhoeddus a
Gweinidogion Cymru i gyflwyno adroddiadau mewn perthynas â'r Ddyletswydd
Partneriaeth Gymdeithasol a’r Ddyletswydd Gaffael.
<<<<
Mae
rhagor o fanylion am y Bil yn y Memorandwm Esboniadol sy'n
cyd-fynd â’r Bil.
Cyfnod
Presennol
BillStage1
Mae'r Bil
yng Nghyfnod 1 ar hyn o bryd. Mae eglurhad o gyfnodau amrywiol Biliau’r Senedd
ar gael yn y Canllaw i Gyfnodau
Biliau a Deddfau Cyhoeddus.
Hynt y Bil
drwy Senedd Cymru
Mae’r tabl
isod yn nodi’r dyddiadau ar gyfer pob cyfnod yn ystod hynt y Bil drwy Senedd
Cymru.
¬¬¬Cyfnod
1 (Cyfredol)
Cytunodd y Pwyllgor
Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar ei ddull
o ran ystyriaethau Cyfnod 1 ar 9 Mehefin 2022.
Dyddiadau’r
Pwyllgor
Bydd y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol yn trafod y Bil ar y dyddiadau a
ganlyn:
Dyddiad ac Agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
Sesiynau tystiolaeth |
|||
Sesiynau tystiolaeth |
|
||
Sesiynau tystiolaeth |
|
|
|
11 Gorffennaf 2022 |
Sesiynau tystiolaeth |
|
|
Bydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn trafod y Bil ar y dyddiadau a
ganlyn:
Dyddiad ac Agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
|
|
Bydd y Pwyllgor Cyllid yn trafod
y Bil ar y dyddiadau a ganlyn:
Dyddiad ac Agenda |
Diben y cyfarfod |
Trawsgrifiad |
Senedd.TV |
|
|
|
|
zzz
¬¬¬Cyflwynwyd
y Bil (7 Mehefin 2022)
Y Bil Partneriaeth
Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru),
fel y’i cyflwynwyd (PDF 333KB)
Memorandwm
Esboniadol (PDF 1,871KB)
Datganiad
o Fwriad y Polisi (PDF 72KB)
Datganiad y
Llywydd (PDF 128KB)
Adroddiad y
Pwyllgor Busnes ar yr amserlen ar gyfer trafod y Bil (PDF 40.6KB)
zzz
Manylion
cyswllt
Clerc: Rhys
Morgan
Ffôn: 0300 200
6565
Cyfeiriad
post:
Senedd
Cymru
Bae
Caerdydd
Caerdydd
CF99 1SN
e-bost: SeneddCydraddoldeb@senedd.cymru
Math o fusnes: Bil
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/06/2022
Dogfennau
- Datganiad o Fwriad y Polisi
PDF 276 KB Gweld fel HTML (1) 79 KB
- Hide the documents
Ymgynghoriadau
- Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) (Rhedeg hyd 22/07/2022)