Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
Cyflwynwyd y Bil Tai Cymdeithasol
(Rheoleiddio) (y Bil) yn Nhŷ'r
Arglwyddi ar 08 Mehefin 2022.
Mae'r teitl hir
i'r Bil yn nodi ei ddiben i wneud darpariaeth ynghylch rheoleiddio tai
cymdeithasol; amodau cynlluniau cymeradwy ar gyfer ymchwilio i gwynion tai; ac
at ddibenion cysylltiedig.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol
Sefydlog 29. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad
Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd fel rheol yn dod o fewn cymhwysedd Senedd
Cymru.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Chwefror 2023.
Cytunwyd
ar y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar gyfer y Bil Tai Cymdeithasol
(Rheoleiddio) yn y Cyfarfod Llawn ar 28 Mawrth 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Mawrth 2023
Ar 9 Mawrth 2023,
gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 187KB).
Cytunodd (PDF
41.0 KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno,
i’r Senedd, erbyn 27 Mawrth 2023.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai ei adroddiad
(PDF 101KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 6) ar 27
Mawrth 2023.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 144KB) ar 27 Chwefror 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Chwefror 2022
Ar 15 Chwefror 2023, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(PDF 193KB).
Cytunodd (PDF 41.0 KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol
(Rheoleiddio) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 27
Chwefror 2023.
Ysgrifennodd
(PDF 131 KB) y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai at y Pwyllgor Busnes ynghylch y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 5) ar 23 Chwefror 2023.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 147KB) ar 27 Chwefror 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Rhagfyr 2022
Ar 6 Rhagfyr 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(PDF 226KB).
Cytunodd (PDF 40 KB)
y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y Bil
Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r
Senedd, erbyn 13 Ionawr 2023.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol (PDF 171KB) ar 13 Ionawr 2023. Ymatebodd Llywodraeth Cymru ar 6 Chwefror 2022.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai ei adroddiad
(PDF 113KB) ar y
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 4) ar 13 Ionawr 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Tachwedd 2022
Ar 17 Tachwedd 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
(PDF 167KB).
Cytunodd (PDF 40.5
KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar y
Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio) ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r
Senedd, erbyn 13 Ionawr 2023.
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 171KB) ar 13 Ionawr 2023. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru ar 6 Chwefror 2022.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Hydref 2022
Ar 5 Hydref 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 176KB).
Cytunodd
(PDF 40KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol
Atodol ar y Bil Tai Cymdeithasol (Rheoleiddio)
ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 1
Rhagfyr 2022.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 150KB) ar 22 Tachwedd 2022. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru ar 6 Rhagfyr 2022.
Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol – Awst 2022
Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 125KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 18 Awst
2022.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi
cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Llywodraeth Leol a Thai, a'r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno
erbyn 1 Rhagfyr 2022 (PDF 41.1 KB)
Cyhoeddodd y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar
Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 150KB) ar 22 Tachwedd 2022. Ymatebodd
Llywodraeth Cymru ar 6 Rhagfyr 2022.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a
Thai ei adroddiad (PDF 157KB) ar y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol,
Memorandwm Atodol (Rhif 2) a Memorandwm Atodol (Rhif 3) ar 13 Rhagfyr 2022. Ymatebodd Llywodraeth
Cymru i’r adroddiad (PDF 145 KB) ar 16 Ionawr 2023.
Math o fusnes: Arall
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 18/08/2022
Dogfennau