Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Banc Seilwaith y DU

Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Banc Seilwaith y DU

Cyflwynwyd Bil Banc Seilwaith y DU (y Bil) yn Nhŷr Arglwyddi ar 11 Mai 2022.

 

Mae teitl hir y Bil yn nodi ei fod yn Fil ar gyfer gwneud darpariaeth ynghylch Banc Seilwaith y DU.

 

Mae’r Bil yn ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd fel rheol yn dod o fewn cymhwysedd Senedd Cymru.

 

Derbyniwyd y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Banc Seilwaith y DU yn y Cyfarfod Llawn ar 17 Ionawr 2023.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol – Tachwedd 2022

Ar 30 Tachwedd 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 178 KB).

Cytunodd (PDF 42.6KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Banc Seilwaith y DU ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 16 Ionawr 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar gyfer Bil Banc Seilwaith y Deyrnas Unedig (PDF 141KB) ar 16 Ionawr 2023. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru (PDF 125KB) ar 15 Chwefror 2023.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (Rhif 3) ar gyfer Bil Banc Seilwaith y Deyrnas Unedig (PDF 151KB) ar 16 Ionawr 2023. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 15 Chwefror 2023.

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol - Gorffennaf 2022

Ar 8 Gorffennaf 2022, gosododd Llywodraeth Cymru Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol (PDF 159 KB).

Cytunodd (PDF 49.7KB) y Pwyllgor Busnes y caiff y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol ar Fil Banc Seilwaith y DU ei drafod ac y gwneir adroddiad arno, i’r Senedd, erbyn 17 Tachwedd 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU (PDF 164 KB) ar 13 Hydref 2022. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 21 Tachwedd 2023.

 

Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol - Mai 2022

Gosododd Llywodraeth Cymru Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 138 KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 25 Mai 2022.

Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig y Pwyllgor Cyllid, y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 29 Medi 2022 (PDF 41KB).


Ar 12 Gorffennaf 2022, cytunodd (PDF 49.5KB) y Pwyllgor Busnes ar ddyddiad cau newydd i’r sef 17 Tachwedd 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU (PDF 188KB) ar 3 Hydref 2022. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru (PDF 157KB) ar 10 Tachwedd 2022.

 

Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyllid ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU (PDF 243KB) ar 10 Hydref 2022. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru (PDF 147KB) ar 17 Tachwedd 2022.

Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ar ei adroddiad ar Femoranda Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Banc Seilwaith y DU (PDF 164 KB) ar 13 Hydref 2022. Cafodd y Pwyllgor ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 21 Tachwedd 2023.

Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol

Cyhoeddwyd gyntaf: 27/05/2022

Dogfennau