Cydsyniad Deddfwriaethol: Y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)
Cyflwynwyd y Bil Masnach (Awstralia a Seland
Newydd (y Bil) yn Nhŷ’r Cyffredin ar 11 Mai 2022.
Mae teitl hir y
Bil yn nodi mai ei ddiben yw galluogi gweithredu Pennodau caffael cytundebau
masnach rydd y Deyrnas Unedig ag Awstralia a Seland Newydd, a gwneud
darpariaeth arall mewn perthynas â hwy.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i’r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan Reol Sefydlog 29
(PDF 599KB). Dyma pan fydd Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad Llywodraeth
Cymru i ddeddfu ar fater sy’n dod o fewn cymhwysedd y Senedd.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Mai 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru Femorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 112 KB) ar y Bil gerbron y Senedd ar 25 Mai
2022.
Mae'r Pwyllgor Busnes
wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor yr Economi,
Masnach a Materion Gwledig y Pwyllgor
Cyfrifon Cyhoeddus a Gweinyddiaeth Gyhoeddus a’r Pwyllgor
Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, a bydd angen cyflwyno adroddiad arno
erbyn 29 Medi 2022 (PDF 41.9KB).
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 27/05/2022