Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Esgyll Siarcod
Cydsyniad Deddfwriaethol: Bil Esgyll Siarcod
Cyflwynwyd y Bil Esgyll Siarcod (“y Bil”)
yn Nhŷ'r Cyffredin ar 16
Tachwedd 2022.
Mae teitl hir y Bil
yn nodi ei fod yn Fil i wahardd mewnforio ac allforio esgyll siarcod ac i wneud
darpariaeth yn ymwneud â thynnu esgyll o siarcod.
Mae’r Bil yn
ddarostyngedig i'r broses cydsyniad deddfwriaethol o dan
Reol Sefydlog 29. Mae hyn yn golygu bod Llywodraeth y DU yn gofyn am
gydsyniad Senedd Cymru i ddeddfu ar fater sydd o fewn cymhwysedd y Senedd.
Derbyniwyd
y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Esgyll Siarcod yn y Cyfarfod
Llawn ar 17 Ionawr 2023.
Memorandwm
Cydsyniad Deddfwriaethol – Tachwedd 2022
Gosododd
Llywodraeth Cymru
Femorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol (PDF 267KB) ar y Bil gerbron y Senedd
ar 25 November 2022.
Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cyfeirio'r Memorandwm at y Pwyllgor
Economi, Masnach a Materion Gwledig a’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad a bydd angen cyflwyno adroddiad arno erbyn 16 Ionawr 2023
(PDF 48.3KB).
Gosododd Pwyllgor
yr Economi, Masnach a Materion Gwledig ei adroddiad (PDF
147KB) ar 10 Ionawr 2023.
Cyhoeddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad ei adroddiad (PDF
147KB) ar 16 Ionawr 2023.
Math o fusnes: Cydsyniad Deddfwriaethol
Cyhoeddwyd gyntaf: 25/11/2022