Agenda a Chofnodion

Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau

Cyswllt: Gareth Price 

Cyfryngau

Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad

Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau

Eitemau
Rhif Eitem

1.

Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni chafwyd ymddiheuriadau.

 

2.

Deisebau newydd

2.1

P-06-1173 Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i dynnu sylw at ei bryderon ynghylch dylanwad presennol Ardaloedd Tirwedd Arbennig, gan gytuno i ofyn a oes unrhyw ffordd o gryfhau'r rhain.

 

2.2

P-06-1179 Peintiwch y trenau ar reilffordd canolbarth Cymru fel eu bod yn debyg i lindys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yng ngoleuni'r ymateb a gafwyd gan y Gweinidog, cytunodd y Pwyllgor na ellid cymryd unrhyw gamau pellach, diolchodd i'r deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

2.3

P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd yr Aelodau y byddai Cadeirydd y Pwyllgor yn mynd ar ymweliad â Glan Conwy i gwrdd â'r deisebydd ac ystyried y sefyllfa bresennol yn y lleoliad a grybwyllir yn y ddeiseb.  Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddychwelyd at y mater hwn ar ôl i'r Cadeirydd ddychwelyd o'i ymweliad, er mwyn asesu'r ffordd orau o fwrw ymlaen â'r mater.

 

2.4

P-06-1188 Dechrau Cynllun Erasmus yng Nghymru i ganiatáu i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru fynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen "Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol" ym mis Mawrth 2021. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y ddeiseb hon wedi bod yn llwyddiannus, gan longyfarch y deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

2.5

P-06-1189 Darparu grantiau ffioedd dysgu i gefnogi myfyrwyr meddygaeth sy'n astudio meddygaeth fel ail radd

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo â'r deisebydd ynghylch y mater hwn. Fodd bynnag, yng ngoleuni ymateb y Llywodraeth a oedd yn nodi nad yw’n bwriadu ar hyn o bryd gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater hwn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

2.6

P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn gweithio ar ymgynghoriad ynghylch y mater hwn ac anogodd y deisebydd a'r cefnogwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pan gaiff ei gynnal. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw golwg ar y mater a dod yn ôl ato pan fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben.

 

2.7

P-06-1192 Dylid sicrhau bod graddau asesu canolfannau yn cyfrannu at y graddau TGAU a Safon Uwch terfynol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor yr anawsterau y mae cyrff cymwysterau yn eu hwynebu wrth lunio eu cynlluniau asesu yn ystod pandemig - a'r effaith enfawr y mae hyn yn ei chael ar fyfyrwyr ac athrawon mewn cyfnod pan maent eisoes dan lawer o bwysau. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor, gan fod addysg a dysgu mewn ysgolion yn dychwelyd i'r arfer, i ddiolch i'r deisebydd – gan ddymuno'n dda iddo yn ei astudiaethau - a chau’r ddeiseb.

 

2.8

P-06-1196 Sefydlu System Wobrwyo Genedlaethol Er Anrhydedd; Gwobr Urdd Marchog Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor raglen wobrwyo bresennol Gwobrau Dewi Sant a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. Wrth gloi'r ddeiseb, cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog er mwyn tynnu sylw at y ddeiseb a gofyn beth mae Gwobrau Dewi Sant yn ei wneud i gofio ffigyrau o hanes Cymru.

 

2.9

P-06-1198 Dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru achub y coed, y gwrychoedd a'r caeau yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiannau perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Bu'n ymwneud â'r cais penodol hwn o'r blaen.

 

Mae wedi cwrdd â'r rhai sy'n ymwneud â'r ymgyrch hon o'r blaen.

 

Nododd y Pwyllgor, o ystyried sefyllfa gontractiol Llywodraeth Cymru, na ellid gwneud fawr ddim i atal y gwerthiant, a bod adeiladu tai yn fater cynllunio i raddau helaeth. Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo â'r deisebydd ynglŷn â’r mater hwn, gan ddod i'r casgliad nad oedd unrhyw lwybrau pellach y gallair Pwyllgor fynd ar eu trywydd mewn perthynas â’r mater, a chytunodd i gau’r ddeiseb.

 

Wrth gloi'r ddeiseb, roedd yr Aelodau am awgrymu y dylai’r deisebydd gysylltu â'i awdurdod lleol a'i gynrychiolwyr.

 

2.10

P-06-1199 Dylid gosod Gwasanaethau Plant Caerdydd mewn mesurau arbennig, a chynnal adolygiad annibynnol ar frys

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor rôl Arolygiaeth Gofal Cymru wrth asesu perfformiad awdurdodau lleol, a bod proses glir ar waith iddynt godi pryderon yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru. Felly, cytunodd yr Aelodau i nodi a chau'r ddeiseb.

 

2.11

P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y byddai'r mater hwn yn cael ei drafod ac yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2021. Felly, cytunodd yr Aelodau i aros am ganlyniad y Cyfarfod Llawn hwnnw, gan gytuno i gyflwyno'r ddeiseb yn ôl i'w thrafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, yn dilyn y sesiwn honno yn y Cyfarfod Llawn.

 

Cytunodd y Pwyllgor hefyd i hysbysu'r deisebydd am ganlyniad y bleidlais a gynhaliwyd yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2021.

 

2.12

P-06-1214 Dylid gwahardd defnyddio masgiau wyneb yn yr ystafell ddosbarth

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

2.13

P-06-1215 Ailddechreuwch parkruns Cymru yr un pryd â rhai Lloegr

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn cais y Cadeirydd i symud dyddiad cau'r ddeiseb hon ymlaen, yn barod ar gyfer ei hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 4 Hydref, ac oherwydd bod y camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb eisoes wedi'u rhoi ar waith, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.

 

2.14

P-06-1216 Lleihau'r costau ar gyfer prawf PCR yng Nghymru i'r rhai sy'n dychwelyd o wyliau tramor a rhoi terfyn ar hunanynysu i'r rhai sydd wedi cael y brechlyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Yn dilyn cais y Cadeirydd i symud dyddiad cau'r ddeiseb hon ymlaen, yn barod ar gyfer ei hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 4 Hydref, ac oherwydd bod y camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb eisoes wedi'u rhoi ar waith, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.

 

3.

Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol

3.1

P-05-1046 Ailystyried y cyfnod clo ac ymchwilio i dystiolaeth wyddonol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod yr amgylchiadau wedi newid o ganlyniad i’r ffaith bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu brechu a bod y rhan fwyaf o'r cyfyngiadau wedi'u codi yng Nghymru, gan gytuno i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

3.2

P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo â'r materion a godwyd yn y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai er mwyn gofyn iddo ystyried y mater hwn fel rhan o'i raglen waith. Cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb.

 

3.3

P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor, o ganlyniad i'r dull a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru ar y mater hwn, nad oedd llawer o gamau pellach y gallai'r Pwyllgor eu cymryd, gan nodi y byddai'n debygol y bydd rhai amgylchiadau bob amser yn bodoli lle byddai angen i lesddeiliaid fod ar waith. Cytunodd yr Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

3.4

P-05-1094 Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Pontypridd - achubwch y Bont Wen

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Datganodd Buffy Williams AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Cytunodd y Pwyllgor i groesawu'r dull gweithredu a ddefnyddiwyd i ddiogelu'r bont Wen gan Gyngor Rhondda Cynon Taf mewn partneriaeth â CADW a nodi bod y ddeiseb wedi cyflawni'r hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud. Cytunodd yr Aelodau i longyfarch y deisebydd ar lwyddiant y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 

 

3.5

P-05-1142 Cynllun Mynd Allan i Helpu Allan

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod gwaith wedi’i wneud ac yn cael ei wneud gyda sefydliadau chwaraeon a chyrff cyhoeddus i gefnogi ac annog ymarfer corff yn dilyn y pandemig, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am godi'r mater hwn.

 

3.6

P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Buffy Williams AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae hi'n byw ym Mhentre, un o'r ardaloedd yr effeithiwyd arni gan y llifogydd yn 2020.

 

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n adnabod y deisebydd.

 

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n Gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog Newid hinsawdd, gan ofyn i'r llywodraeth ddwyn ynghyd drosolwg o ganfyddiadau pob un o'r gwahanol adroddiadau adran 19 ac adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n ystyried y gost ddynol ochr yn ochr â'r manylion technegol.

 

Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, yn gofyn iddo ystyried y materion a'r dystiolaeth a godwyd gan y deisebydd fel rhan o'i waith yn y dyfodol.

 

3.7

P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Materion Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i ofyn am ymateb i'r meysydd a amlygwyd gan y deisebydd, gan ofyn sut y gallant ddylanwadu a rhyngweithio â'i gilydd, yn ogystal â'r alwad gan y deisebydd, ynghyd ag amserlen glir ar gyfer cwblhau’r broses.

 

3.8

P-06-1159 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid unwaith ac am byth yng Nghymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC).

 

Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A:

Mae eisoes wedi llofnodi deiseb mewn perthynas â’r mater hwn.

 

Nododd a chroesawodd y Pwyllgor y ffaith bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru, felly cytunodd yr Aelodau i longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

3.9

P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am bapur cwmpasu gan y gwasanaeth ymchwil ynglŷn â’r mater hwn, cyn penderfynu pa gamau y gellid eu cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb hon.

 

3.10

P-06-1164 Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor fod deddfwriaeth eisoes yn bodoli ar gyfer sefyllfaoedd pan fo bwlio neu aflonyddu yn drosedd, ac nad yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu deddfu ymhellach ar y mater hwn. Felly, cytunodd yr Aelodau i gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater.

 

Wrth gau’r ddeiseb, roedd yr Aelodau am wneud y datganiad nad yw bwlio ac aflonyddu yn dderbyniol yng Nghymru.

 

3.11

P-06-1167 Cefnogwch fusnesau teithio a thwristiaeth Cymru

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Cytunodd y Pwyllgor y dylai Aelodau unigol y Senedd fynd i'r afael â'r mater hwn yn awr, ac nad oedd llawer pellach y gallai'r Pwyllgor ei wneud ynglŷn â’r mater. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi’r mater a chau’r ddeiseb.

 

4.

Papur i'w nodi

Dogfennau ategol:

Cofnodion:

Nododd y Pwyllgor y llythyr.

 

5.

Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6.

Cofnodion:

Derbyniwyd y cynnig.

 

6.

Sesiwn Cynllunio Strategol / Cyflwyniad data deisebau

Cofnodion:

Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gyflwynwyd a chytunodd i ddychwelyd at y mater, gan ofyn i gael papur ynghylch y mater hwn sy’n edrych yn fanylach ar oblygiadau newid y trothwy llofnodion erbyn y cyfarfod nesaf.