P-06-1159 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid unwaith ac am byth yng Nghymru

P-06-1159 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid unwaith ac am byth yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Robert Curtis, ar ôl casglu cyfanswm o 6,514 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Gofynnwch i'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ac mae'n siŵr y byddent yn dweud wrthych eu bod yn credu y cafodd yr arfer o osod maglau ar gyfer anifeiliaid gwyllt ei wahardd yn yr oesoedd tywyll, ond yn anffodus mae’r gwir yn dra wahanol. Y gwir yw bod miloedd o anifeiliaid gwyllt a domestig yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yng Nghymru bob blwyddyn gan fod pobl yn defnyddio maglau.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ar hyn o bryd, dim ond cod arfer gorau sydd gennym o ran eu defnydd, er bod y trapiau'n wirioneddol greulon. Nid oes lle iddynt yn y Gymru fodern sy'n ystyriol o fywyd gwyllt.

 

Mae’r maglau yn wifrau tenau â dolen sydd wedi’u dylunio i ddal ac achosi marwolaeth i’r dioddefwr yn y pen draw. Mae’r ffordd y maen nhw wedi’u dylunio’n golygu eu bod yn aml iawn yn achosi i’r anifail sydd wedi’i ddal ynddynt golli aelodau neu dagu, a dioddef marwolaeth araf.

 

Mae awgrymu "Cod arfer gorau" yn gyfwerth â chael "Cod arfer gorau" ar gyfer defnyddio’r gadair drydan. Mae'r ddau yn greulon ac yn annynol yn eu hanfod.

Mae hefyd yn anodd iawn gorfodi'r rheoliadau ynglŷn â gosod maglau, sy'n digwydd yn bennaf ar dir preifat mewn lleoliadau anghysbell.

 

Ar adeg pan yr ydym yn ceisio ailgyflwyno llawer o rywogaethau a gollwyd ers amser maith (oherwydd erledigaeth a hela anwybodus yn y gorffennol), fel bele’r coed, gwiwerod coch, ceirw, dyfrgwn a hyd yn oed afancod, mae dyluniad anwahaniaethol y maglau yn golygu y bydd llawer o'r rhywogaethau gwarchodedig hyn yn cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol yn y pen draw.

 

Mae'r trapiau anwahaniaethol hyn hefyd yn fygythiad gwirioneddol ac annerbyniol i'n cathod a chŵn anwes teuluol. Gwnewch Gymru'n rhydd rhag maglau!

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd a chroesawodd y Pwyllgor y ffaith bod Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru, felly cytunodd yr Aelodau i longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/07/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 23/03/2021