P-06-1164 Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol
P-06-1164 Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Alanna Louise Virk, ar ôl casglu cyfanswm o 94 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae
gormod o blant yn dioddef mewn distawrwydd, yn hunan-niweidio neu'n cyflawni
hunanladdiad. Nid yw annog plant i fod yn garedig wrth ei gilydd yn gweithio.
Nid yw bwlis yn wynebu canlyniadau eu gweithredoedd. Dylid gwneud bwlio ac
aflonyddu yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb
troseddol (10 oed+).
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Yn
amlach na pheidio y dioddefwyr a'u teuluoedd sy'n gorfod ymdopi â chanlyniadau
bwlio, nid y bwlis. Mae llawer o blant yn cyflawni hunanladdiad neu yn cael eu
bywydau wedi'u dinistrio, ond mae bwlis yn byw gweddill eu bywydau heb wynebu
unrhyw ganlyniadau am eu gweithredoedd. Yn aml ni fydd plant yn codi llais
oherwydd eu bod yn teimlo'n ddi-rym ac yn credu nad oes modd atal y bwlio. Os
byddai hyn yn gyfraith yna fe allai plant deimlo'n fwy hyderus i godi llais yn
erbyn eu bwlis. Mae bwlio ac aflonyddu yn y gweithle wedi'i warchod o dan
Ddeddf Cydraddoldeb 2010. Pam na all plant gael yr un amddiffyniad?
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor fod deddfwriaeth eisoes yn bodoli ar
gyfer sefyllfaoedd pan fo bwlio neu aflonyddu yn drosedd, ac nad yw Llywodraeth
Cymru yn bwriadu deddfu ymhellach ar y mater hwn. Felly, cytunodd yr Aelodau i
gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater.
Wrth gau’r ddeiseb, roedd yr Aelodau am wneud y datganiad
nad yw bwlio ac aflonyddu yn dderbyniol yng Nghymru.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
16/07/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Wrecsam
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2021