P-05-1094 Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Pontypridd - achubwch y Bont Wen

P-05-1094 Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Pontypridd - achubwch y Bont Wen

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Cynghorydd Mike Powell, ar ôl casglu cyfanswm o 304 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Rydym ni sydd wedi llofnodi isod yn gofyn i Lywodraeth Cymru weithredu drwy CADW i sicrhau bod y Bont Wen ym Mhontypridd yn cael ei diogelu fel nad yw'r dref yn colli darn pwysig arall o'i threftadaeth hi a Chymru. Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Cymru.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Adeiladwyd y Bont Wen ym 1907, ac ar adeg ei hadeiladu dyma oedd y bwa concrit wedi'i atgyfnerthu hiraf ym Mhrydain. Cafodd ei rhestru’n strwythur Gradd II gan CADW ar 26 Chwefror 2001.

 

Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf wedi nodi mai ei fwriad yw dymchwel y bont yn dilyn difrod storm yn gynnar yn 2020, sydd wedi ei gwneud yn anniogel ym marn y Cyngor. Yn ei lythyr at y Cynghorydd Mike Powell dyddiedig 25 Mehefin 2020, nododd Dafydd Elis Thomas, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn glir fod Polisi Cynllunio Cymru yn esbonio y dylai “dymchwel unrhyw adeilad rhestredig gael ei ystyried yn ddigwyddiad eithriadol a rhaid bod cyfiawnhad cryf tu hwnt dros wneud hynny”, gan gynnwys datganiad o’r effaith ar dreftadaeth. Nododd hefyd fod ei swyddogion wedi pwysleisio y byddai angen lefel uchel o gyfiawnhad er mwyn i gais am gydsyniad i ddymchwel adeilad rhestredig lwyddo.

 

Os caiff y bont ei dymchwel, dyna fydd ei diwedd hi.

https://britishlistedbuildings.co.uk/300024848-white-bridge-also-known-as-berw-bridge-pontypridd#.X0rZH2nRY0M

 

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i groesawu'r dull gweithredu a ddefnyddiwyd i ddiogelu'r bont Wen gan Gyngor Rhondda Cynon Taf mewn partneriaeth â CADW a nodi bod y ddeiseb wedi cyflawni'r hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud. Cytunodd yr Aelodau i longyfarch y deisebydd ar lwyddiant y ddeiseb a chytunodd i gau'r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 09/02/2021.

 

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Pontypridd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 06/01/2021