P-06-1196 Sefydlu System Wobrwyo Genedlaethol Er Anrhydedd; Gwobr Urdd Marchog Cymru

P-06-1196 Sefydlu System Wobrwyo Genedlaethol Er Anrhydedd; Gwobr Urdd Marchog Cymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Neil App Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 84 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Yr ydym ni, y cyhoedd yng Nghymru, wir yn dymuno dod ag Urddas i Gyflawnwyr ein Cenedl

 

Mae'n drasiedi lwyr bod cynifer o gyflawnwyr ein Cenedl wedi'u claddu, yn angof a heb eu dathlu mewn beddi ym mhob cwr o’r byd.... drwy gydol ein hanes balch a hir

 

Fy nymuniad, ers tro, yw anrhydeddu'r eneidiau hyfryd hyn, yma yng Nghymru sydd wedi ymuno mewn hanes a’u calonau, mae’n debyg, wedi torri o wybod na chawsant eu gwir gydnabyddiaeth yng........ "Ngwlad ein Mamau a’n Tadau".

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ni fyddwn fyth wedi derbyn unrhyw Wobr sy'n gysylltiedig â'r "Ymerodraeth Brydeinig" yn system Wobrwyo Genedlaethol er Anrhydedd y Deyrnas Unedig; Mae Michael Sheen, er mawr glod iddo, wedi creu hanes ac wedi helpu i ryddhau pobl Cymru gyda'i weithredoedd arwyddocaol a gwrol

 

Mae wedi rhoi cryn loes i mi nad yw ein Llywodraeth yma yng Nghymru wedi dymuno codi proffil ac anrhydeddu llawer o feddyliau gwych a theilwng ein Cenedl, tra maent wedi byw yn ein plith; rwyf wedi fy nigalonni dros yr holl rai anghofiedig

 

Roedd Gwobrau Dewi Sant yn ddechrau ond mae angen i ni ddod â mwy o glod i bwy ydym ni fel Cenedl, wedi'r cyfan ni yw'r bobl a gyflwynodd i'r Byd hanesion y Brenin Arthur a'i Farchogion; gadewch inni unioni’r cam a sicrhau atebolrwydd, cwrteisi, urddas a pharch i’n colliedig a’n cyflawnwyr

 

Dylem ni fel Cenedl o bobl ddod at ein gilydd fel un, i gyd-dynnu, i estyn allan, i barchu’r eneidiau coll hyn o Gymru. Gadewch inni wneud hyn yn awr cyn i eicon arall fynd i'r nefoedd heb ei ddathlu a’i garu.

 

yellow and white star illustration

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor raglen wobrwyo bresennol Gwobrau Dewi Sant a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. Wrth gloi'r ddeiseb, cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog er mwyn tynnu sylw at y ddeiseb a gofyn beth mae Gwobrau Dewi Sant yn ei wneud i gofio ffigyrau o hanes Cymru.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/10/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gŵyr
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2021