P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Nicola Jones, ar ôl casglu cyfanswm o 60 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:        

Credwn fod llawer o’r rheini sy’n gadael gofal yn cerdded allan o'u lleoliadau gan nad oes llawer o ystyriaeth yn cael ei rhoi i'w profiadau blaenorol na’u lles meddyliol er bod gan fabi hawl i aros gyda'i riant/rhieni os yw'n ddiogel gwneud hynny.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae llawer o rheini sy’n gadael gofal yn profi ymyrraeth gan wasanaethau cymdeithasol pan fyddant yn rhoi genedigaeth. Mae hyn yn aml oherwydd eu hanes a/neu ddiffyg canllawiau gan eu rhieni eu hunain. Heb os, mae’r rhai sy'n gadael gofal wedi profi trawma yn ystod eu plentyndod ac yn aml yn dioddef o orbryder yn eu bywydau fel oedolion. Yn aml nid ydyn nhw erioed wedi teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi yn ystod eu plentyndod ac mae cael eu lle eu hunain wedi bod yn hafan ddiogel iddynt lle maen nhw’n gallu ymlacio'n llwyr. Ar hyn o bryd, os oes unrhyw bryderon, mae rhiant yn cael ei gludo o’i gartref, ei deulu a’i ffrindiau ac yna’n cael ei roi mewn cartref maeth neu gartref preswyl i’w asesu heb fawr o ystyriaeth i’r hyn sy’n sbarduno’r rhiant, a’i les meddyliol. Credwn fod hyn yn aml yn achosi cyfnod emosiynol dros ben ac yna mae rhieni'n gadael eu lleoliadau gan ddifaru am byth y penderfyniad brys a wnaed mewn eiliad bryderus na fyddai wedi digwydd pe bai'r sefyllfa wedi cael ei thrin â mwy o empathi. Rydym am wybod y ffeithiau i weld a oes angen ateb gwell ar gyfer y rhiant a'r plentyn.

 

 

A group of people posing for a photo

Description automatically generated

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/10/2023 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a nododd y ddadl ar y cyd a gynhaliwyd yn y Cyfarfod Llawn ar y ddeiseb ac adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar blant sydd wedi bod mewn gofal.

 

Nododd yr Aelodau y bydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn parhau i fonitro cynnydd ar y materion ehangach sy’n berthnasol i’r ddeiseb hon, felly cytunwyd y dylid cau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am ymgysylltu â'r Pwyllgor.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/07/2021.

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Gorllewin Caerdydd
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2021

Dogfennau