P-06-1198 Dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru achub y coed, y gwrychoedd a'r caeau yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn
P-06-1198 Dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru achub y coed, y gwrychoedd a'r caeau yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sophie Seymour, ar ôl casglu
cyfanswm o 334 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn annog Llywodraeth Cymru i atal ei chynlluniau i
werthu'r 49 erw o gaeau gleision ym Meisgyn ar gyfer 460 o dai. Gofynnwn iddi
beidio â gwerthu'r tir ar gyfer codi tai a rhoi'r gorau i'w chynlluniau ar
gyfer y datblygiad. Rydym yn annog Gweinidogion Cymru i roi sylw i’r argyfwng
hinsawdd, cadw at egwyddorion Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol a thynnu yn ôl y
cynlluniau ar gyfer y caeau hyn. Gan na fydd ysgol newydd yn cael ei darparu ar
y safle, bydd hyn hefyd yn achosi mwy o draffig ar y ffyrdd a llygredd.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae'r caeau'n ffinio ar Goed-yr-Hendy (coetir hynafol),
Afon Clun a Chors y Pant, sy'n safle gwarchod natur. Mae gan y caeau lawer o
goed a fydd yn cael eu colli oherwydd adeiladu ffyrdd newydd ar gyfer yr ystâd
newydd. Bydd gwaith codi tai yn niweidio'r gwrychoedd a'r glasbrennau. Mae
Coed-yr-Hendy a’r caeau yn gartref i nifer fawr o adar, mamaliaid bach a
phryfed; gwelir adar ac ystlumod yn gyson yn hela eu bwyd uwchben y caeau - ni
ddylem fynd â hyn oddi wrthynt. Bydd adeiladu ar y caeau hyn yn cael effaith
drychinebus ar fywyd gwyllt lleol a'r system ecolegol leol.
Yn sgil y datganiad ar argyfwng hinsawdd y wlad hon,
mae’n hollbwysig cadw ein gwrychoedd, ein coed a’n mannau gwyrdd o gofio eu bod
yn amsugno ac yn hidlo carbon deuocsid a llygryddion aer eraill. Hefyd, maent
yn helpu i ddraenio dŵr glaw a lleihau erydiad pridd. Byddai parhau i
ffermio defaid ar y caeau hyn yn dod â buddion aruthrol i’n hamgylchedd ym
Meisgyn a’r tu hwnt.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Nododd y Pwyllgor, o ystyried sefyllfa gontractiol
Llywodraeth Cymru, na ellid gwneud fawr ddim i atal y gwerthiant, a bod
adeiladu tai yn fater cynllunio i raddau helaeth. Roedd y Pwyllgor yn
cydymdeimlo â'r deisebydd ynglŷn â’r mater hwn, gan ddod i'r casgliad nad
oedd unrhyw lwybrau pellach y gallai’r Pwyllgor fynd ar eu trywydd mewn
perthynas â’r mater, a chytunodd i gau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y
Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar
04/10/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Pontypridd
- Canol De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2021