P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill

P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan John William Gates, ar ôl casglu cyfanswm o 336 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:       

Rydym am i Lywodraeth Cymru ymrwymo i beidio â chyflwyno yng Nghymru unrhyw e-basbortau imiwnedd neu basbortau i ddangos bod unigolyn wedi’i frechu. Mae’n bosibl y gallai unrhyw basbort o’r fath gael ei ddefnyddio i gyfyngu ar hawliau pobl sydd wedi gwrthod brechlyn COVID-19; er enghraifft, drwy eu hatal rhag cael mynediad i siopau, archfarchnadoedd neu leoliadau eraill. Byddai hyn yn annerbyniol.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Ar 14 Rhagfyr 2020, dywedodd Nadhim Zahawi AS nad oedd unrhyw fwriad i gyflwyno pasbortau o’r fath. Mae’n parhau i wadu bod Llywodraeth y DU yn bwriadu gwneud hynny, serch adroddiadau y bydd pobl sydd wedi’u brechu yn erbyn COVID-19 yn cael pasbort sy’n profi eu bod wedi’u brechu fel rhan o gynllun peilot sydd wedi’i gyllido gan y Llywodraeth.

 

Mae’n rhaid i Lywodraeth Cymru fod yn hollol glir ynghylch ei bwriad a’r defnydd a wneir o basbortau ar ôl brechu, oherwydd byddai cyflwyno cynllun o’r fath yn ddi-os yn effeithio ar gydlyniad cymdeithasol ac ar adferiad economaidd Prydain Fawr eleni ac yn 2022.

 

person in blue long sleeve shirt holding white textile

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 01/11/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

O ystyried bod y mater hwn wedi cael ei drafod a'i gymeradwyo yn y Senedd, a'i fod ar waith ers hynny, nododd y Pwyllgor nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu cymryd a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/10/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Aberafon
  • Gorllewin De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 29/09/2021