P-06-1188 Dechrau Cynllun Erasmus yng Nghymru i ganiatáu i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru fynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd

P-06-1188 Dechrau Cynllun Erasmus yng Nghymru i ganiatáu i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru fynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Thomas Aled Canter, ar ôl casglu cyfanswm o 1,486 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Pan oeddem yn aelodau o’r Undeb Ewropeaidd, roeddem yn rhan o Gynllun Erasmws.

 

Gan ein bod allan o’r Undeb yn awr, hoffem ddechrau fersiwn o gynllun Erasmws ar gyfer myfyrwyr Cymru.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei rhaglen "Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol" ym mis Mawrth 2021. Daeth y Pwyllgor i'r casgliad bod y ddeiseb hon wedi bod yn llwyddiannus, gan longyfarch y deisebydd a chau’r ddeiseb.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/10/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Wrecsam
  • Gogledd Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 24/09/2021