P-06-1167 Cefnogwch fusnesau teithio a thwristiaeth Cymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan
Matthew Sutton, ar ôl casglu cyfanswm o 138 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Mae’r
coronafeirws wedi effeithio’n sylweddol ar bob busnes ledled Cymru, ond mae
wedi cael effaith ariannol enfawr ar y diwydiant teithio a thwristiaeth ers y
dechrau.
O'r
rheol 5 milltir wreiddiol, i gael caniatâd i fasnachu am 7 wythnos yn unig, a
bellach mae cyfyngiadau teithio lleol wedi cael eu gosod eto ar draws rhannau
helaeth o Gymru.
Gwybodaeth
Ychwanegol:
Mae'r
diwydiant twristiaeth, yn enwedig gwyliau bysiau, yn mynd â phobl i lan y môr,
i drefi ac i ddinasoedd, gan roi digonedd o arian i fusnesau lletygarwch a
manwerthu lleol.
Ychydig
iawn o arian gawson ni, ac ni fydd y cyhoeddiad diweddaraf ynghylch y Gronfa
Cadernid Economaidd yn ddigon i gefnogi'r holl fusnesau ledled Cymru y mae
angen y gefnogaeth arnynt.
Mae
pecynnau cymorth wedi’u rhoi ar waith ar gyfer llawer o fathau o fusnesau, ond
mae’n ymddangos mai ein maes ni sydd wedi’i effeithio waethaf ac sydd wedi cael
y lleiaf o gymorth.
Rydym yn
gofyn yn garedig am eich cefnogaeth i annog Llywodraeth Cymru i drafod cynllun
i helpu ein diwydiant i oroesi’r pandemig hwn.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 04/10/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Cytunodd y Pwyllgor y
dylai Aelodau unigol y Senedd fynd i'r afael â'r mater hwn yn awr, ac nad oedd
llawer pellach y gallai'r Pwyllgor ei wneud ynglŷn â’r mater. Cytunodd y
Pwyllgor i ddiolch i'r deisebydd am godi’r mater a chau’r ddeiseb.
Gellir gweld manylion
llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig
ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf
gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/07/2021.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Merthyr Tudful a Rhymni
- Dwyrain De Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach
yn ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Statws: I'w ystyried
Cyhoeddwyd gyntaf: 30/06/2021