P-06-1173 Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru

P-06-1173 Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan ‘Vale Communities For Future Generations’, ar ôl casglu cyfanswm o 416 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mewn ymateb i’r argyfwng yn yr hinsawdd, gofynnwn i Lywodraeth Cymru ddiogelu Ardaloedd Tirwedd Arbennig ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

 

Mae Ardaloedd Tirwedd Arbennig yn feysydd tirwedd uchel o bwys ar gyfer gwerth amgylcheddol, corfforol, gweledol, diwylliannol neu hanesyddol a gallan nhw fod yn unigryw, yn eithriadol neu'n neilltuol, ond NID YDYN NHW WEDI’U HAMDDIFFYN.

 

Mae eu coetiroedd hynafol, rhywogaethau prin, ardaloedd arbennig o gynefin neu'r man lle y maen nhw’n bodoli yn agored i niwed yn sgil ffyrdd newydd, parciau busnes neu ddatblygiadau niweidiol eraill.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae enghraifft o Ardal Tirwedd Arbennig sydd mewn perygl ym mhentref cadwraeth Pendeulwyn yn Nyffryn Elái, y mae Cyngor Bro Morgannwg yn cynnig adeiladu ffordd cludo nwyddau newydd drwyddo. Bydd y ffordd hon yn dinistrio coetir hynafol a bywyd gwyllt sydd mewn perygl yn ogystal â llygru'r cyrsiau aer a dŵr y mae'r Ardal Tirwedd Arbennig hon yn dibynnu arnyn nhw.

 

Yn anffodus, nid oes unrhyw amddiffyniad i fod yn Ardal Tirwedd Arbennig, felly mae cynllunwyr a datblygwyr yn rhydd i ddatblygu pa bynnag gynlluniau y maent eu heisiau.

 

Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gofio eu hymrwymiad i bolisïau amgylcheddol a newid yn yr hinsawdd, a'u cyfrifoldebau i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

 

Mae angen rhoi amddiffyniad Cyfreithiol ar frys i ardaloedd unigryw yng Nghymru sydd eisoes wedi'u nodi fel Ardaloedd Tirwedd Arbennig.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 09/05/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb ac, o gofio ymateb cadarn y Gweinidog bod y fframwaith polisi Ardaloedd Tirwedd Arbennig presennol yn darparu digon o amddiffyniad, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd, ac annog Aelodau unigol o'r Senedd i fynegi pryderon pan fyddant yn codi.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 04/10/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 08/07/2021