Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Transcript for 04/10/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
Rhif | Eitem |
---|---|
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
|
Deisebau newydd |
|
P-06-1173 Amddiffyniad Cyfreithiol i Ardaloedd Tirwedd Arbennig dynodedig yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog i
dynnu sylw at ei bryderon ynghylch dylanwad presennol Ardaloedd Tirwedd
Arbennig, gan gytuno i ofyn a oes unrhyw ffordd o gryfhau'r rhain. |
|
P-06-1179 Peintiwch y trenau ar reilffordd canolbarth Cymru fel eu bod yn debyg i lindys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Yng ngoleuni'r ymateb a gafwyd gan y Gweinidog, cytunodd
y Pwyllgor na ellid cymryd unrhyw gamau pellach, diolchodd i'r deisebydd a
chau'r ddeiseb. |
|
P-06-1183 Gosod terfyn cyflymder 20 milltir yr awr ar gyfer 100 metr bob ochr i'r groesfan newydd i gerddwyr yng Nglan Conwy Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd yr Aelodau y byddai Cadeirydd y Pwyllgor yn mynd
ar ymweliad â Glan Conwy i gwrdd â'r deisebydd ac ystyried y sefyllfa bresennol
yn y lleoliad a grybwyllir yn y ddeiseb.
Cytunodd y Pwyllgor hefyd i ddychwelyd at y mater hwn ar ôl i'r
Cadeirydd ddychwelyd o'i ymweliad, er mwyn asesu'r ffordd orau o fwrw ymlaen
â'r mater. |
|
P-06-1188 Dechrau Cynllun Erasmus yng Nghymru i ganiatáu i fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru fynd i wledydd yr Undeb Ewropeaidd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei
rhaglen "Cyfnewid Dysgu Rhyngwladol" ym mis Mawrth 2021. Daeth y
Pwyllgor i'r casgliad bod y ddeiseb hon wedi bod yn llwyddiannus, gan
longyfarch y deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1189 Darparu grantiau ffioedd dysgu i gefnogi myfyrwyr meddygaeth sy'n astudio meddygaeth fel ail radd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Roedd y Pwyllgor yn cydymdeimlo â'r deisebydd ynghylch y
mater hwn. Fodd bynnag, yng ngoleuni ymateb y Llywodraeth a oedd yn nodi nad
yw’n bwriadu ar hyn o bryd gymryd unrhyw gamau pellach mewn perthynas â’r mater
hwn, daeth y Pwyllgor i'r casgliad nad oedd unrhyw gamau pellach y gallai eu
cymryd, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-06-1190 Gwahardd y defnydd o fawn mewn garddwriaeth ac unrhyw ddeunydd tyfu erbyn 2023 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod y Gweinidog Materion Gwledig a
Gogledd Cymru, a’r Trefnydd yn gweithio ar ymgynghoriad ynghylch y mater hwn ac
anogodd y deisebydd a'r cefnogwyr i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad pan gaiff ei
gynnal. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i gadw golwg ar y mater a dod yn ôl ato pan
fydd yr ymgynghoriad wedi dod i ben. |
|
P-06-1192 Dylid sicrhau bod graddau asesu canolfannau yn cyfrannu at y graddau TGAU a Safon Uwch terfynol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor yr anawsterau y mae cyrff cymwysterau
yn eu hwynebu wrth lunio eu cynlluniau asesu yn ystod pandemig - a'r effaith
enfawr y mae hyn yn ei chael ar fyfyrwyr ac athrawon mewn cyfnod pan maent
eisoes dan lawer o bwysau. Fodd bynnag, cytunodd y Pwyllgor, gan fod addysg a
dysgu mewn ysgolion yn dychwelyd i'r arfer, i ddiolch i'r deisebydd – gan
ddymuno'n dda iddo yn ei astudiaethau - a chau’r ddeiseb. |
|
P-06-1196 Sefydlu System Wobrwyo Genedlaethol Er Anrhydedd; Gwobr Urdd Marchog Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor raglen wobrwyo bresennol Gwobrau Dewi
Sant a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd a chau'r ddeiseb. Wrth gloi'r ddeiseb,
cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at y Prif Weinidog er mwyn tynnu sylw at
y ddeiseb a gofyn beth mae Gwobrau Dewi Sant yn ei wneud i gofio ffigyrau o
hanes Cymru. |
|
P-06-1198 Dylai Gweinidogion Llywodraeth Cymru achub y coed, y gwrychoedd a'r caeau yng Nghefn yr Hendy, Meisgyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiannau perthnasol a ganlyn
o dan Reol Sefydlog 17.24A: Bu'n ymwneud â'r cais penodol hwn o'r blaen. Mae wedi cwrdd â'r rhai sy'n ymwneud â'r ymgyrch hon o'r
blaen. Nododd y Pwyllgor, o ystyried sefyllfa gontractiol
Llywodraeth Cymru, na ellid gwneud fawr ddim i atal y gwerthiant, a bod
adeiladu tai yn fater cynllunio i raddau helaeth. Roedd y Pwyllgor yn
cydymdeimlo â'r deisebydd ynglŷn â’r mater hwn, gan ddod i'r casgliad nad oedd unrhyw
lwybrau pellach y gallai’r Pwyllgor
fynd ar eu trywydd mewn perthynas â’r mater, a chytunodd i gau’r ddeiseb. Wrth gloi'r ddeiseb, roedd yr Aelodau am awgrymu y
dylai’r deisebydd gysylltu â'i awdurdod lleol a'i gynrychiolwyr. |
|
P-06-1199 Dylid gosod Gwasanaethau Plant Caerdydd mewn mesurau arbennig, a chynnal adolygiad annibynnol ar frys Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor rôl Arolygiaeth Gofal Cymru wrth asesu
perfformiad awdurdodau lleol, a bod proses glir ar waith iddynt godi pryderon
yn uniongyrchol gyda Llywodraeth Cymru. Felly, cytunodd yr Aelodau i nodi a
chau'r ddeiseb. |
|
P-06-1203 Peidiwch â chyflwyno pasbortau brechlyn COVID-19 ar gyfer lleoliadau manwerthu a lletygarwch neu leoliadau eraill Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y byddai'r mater hwn yn cael ei drafod
ac yn destun pleidlais yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2021. Felly, cytunodd yr
Aelodau i aros am ganlyniad y Cyfarfod Llawn hwnnw, gan gytuno i gyflwyno'r
ddeiseb yn ôl i'w thrafod yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor, yn dilyn y sesiwn
honno yn y Cyfarfod Llawn. Cytunodd y Pwyllgor hefyd i hysbysu'r deisebydd am
ganlyniad y bleidlais a gynhaliwyd yn ystod y Cyfarfod Llawn ar 5 Hydref 2021. |
|
P-06-1214 Dylid gwahardd defnyddio masgiau wyneb yn yr ystafell ddosbarth Dogfennau ategol: Cofnodion: |
|
P-06-1215 Ailddechreuwch parkruns Cymru yr un pryd â rhai Lloegr Dogfennau ategol: Cofnodion: Yn dilyn cais y Cadeirydd i symud dyddiad cau'r ddeiseb
hon ymlaen, yn barod ar gyfer ei hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 4 Hydref,
ac oherwydd bod y camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb eisoes
wedi'u rhoi ar waith, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb. |
|
P-06-1216 Lleihau'r costau ar gyfer prawf PCR yng Nghymru i'r rhai sy'n dychwelyd o wyliau tramor a rhoi terfyn ar hunanynysu i'r rhai sydd wedi cael y brechlyn Dogfennau ategol: Cofnodion: Yn dilyn cais y Cadeirydd i symud dyddiad cau'r ddeiseb
hon ymlaen, yn barod ar gyfer ei hystyried yng nghyfarfod y Pwyllgor ar 4 Hydref,
ac oherwydd bod y camau gweithredu y gofynnwyd amdanynt yn y ddeiseb eisoes
wedi'u rhoi ar waith, cytunodd yr Aelodau i gau'r ddeiseb. |
|
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-1046 Ailystyried y cyfnod clo ac ymchwilio i dystiolaeth wyddonol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod yr amgylchiadau wedi newid o
ganlyniad i’r ffaith bod y rhan fwyaf o'r boblogaeth oedolion wedi cael eu
brechu a bod y rhan fwyaf o'r cyfyngiadau wedi'u codi yng Nghymru, gan gytuno i
gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
|
P-05-1056 Rhowch rymoedd i Awdurdodau Lleol reoli'r farchnad dai yn ardaloedd gwledig a thwristaidd Cymru Dogfennau ategol: Cofnodion: Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y
deisebydd. Roedd y Pwyllgor yn
cydymdeimlo â'r materion a godwyd yn y ddeiseb a chytunodd i ysgrifennu at
Gadeirydd y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai er mwyn gofyn iddo ystyried y
mater hwn fel rhan o'i raglen waith. Cytunodd yr
Aelodau i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-1129 Mae angen cymhwyso mesurau deddfwriaethol nawr i weithredu argymhellion Comisiwn y Gyfraith i ddiddymu Lesddaliad Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor, o ganlyniad i'r dull a gymerwyd gan
Lywodraeth Cymru ar y mater hwn, nad oedd llawer o gamau pellach y gallai'r
Pwyllgor eu cymryd, gan nodi y byddai'n debygol y bydd rhai amgylchiadau bob
amser yn bodoli lle byddai angen i lesddeiliaid fod ar waith. Cytunodd yr
Aelodau i ddiolch i’r deisebydd a chau’r ddeiseb. |
|
P-05-1094 Rhoi terfyn ar ddirywiad treftadaeth Pontypridd - achubwch y Bont Wen Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd. Datganodd Buffy Williams AS y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd. Cytunodd y Pwyllgor i groesawu'r dull gweithredu a
ddefnyddiwyd i ddiogelu'r bont Wen gan Gyngor Rhondda Cynon Taf mewn partneriaeth
â CADW a nodi bod y ddeiseb wedi cyflawni'r hyn yr oedd yn bwriadu ei wneud.
Cytunodd yr Aelodau i longyfarch y deisebydd ar lwyddiant y ddeiseb a chytunodd
i gau'r ddeiseb. |
|
P-05-1142 Cynllun Mynd Allan i Helpu Allan Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod gwaith wedi’i wneud ac yn cael ei
wneud gyda sefydliadau chwaraeon a chyrff cyhoeddus i gefnogi ac annog ymarfer
corff yn dilyn y pandemig, a chytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd
am godi'r mater hwn. |
|
P-05-1010 Ymchwiliad annibynnol i'r llifogydd yn Rhondda Cynon Taf yn 2020 fel bod gwersi yn cael eu dysgu Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Buffy Williams AS y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae hi'n byw ym Mhentre, un o'r ardaloedd yr effeithiwyd
arni gan y llifogydd yn 2020. Datganodd Luke Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn
o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y deisebydd. Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n Gynghorydd ar Gyngor Rhondda Cynon Taf. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu'n ôl at y Gweinidog
Newid hinsawdd, gan ofyn i'r llywodraeth ddwyn ynghyd drosolwg o ganfyddiadau
pob un o'r gwahanol adroddiadau adran 19 ac adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru,
sy'n ystyried y gost ddynol ochr yn ochr â'r manylion technegol. Cytunodd yr Aelodau hefyd i ysgrifennu at Gadeirydd y
Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith, yn gofyn iddo ystyried y
materion a'r dystiolaeth a godwyd gan y deisebydd fel rhan o'i waith yn y
dyfodol. |
|
P-05-1097 Dylid gwahardd cewyll adar hela Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o
dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain
(BASC). Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Materion
Gwledig, Gogledd Cymru, a'r Trefnydd i ofyn am ymateb i'r meysydd a amlygwyd
gan y deisebydd, gan ofyn sut y gallant ddylanwadu a rhyngweithio â'i gilydd,
yn ogystal â'r alwad gan y deisebydd, ynghyd ag amserlen glir ar gyfer
cwblhau’r broses. |
|
P-06-1159 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid unwaith ac am byth yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel James AS y buddiant perthnasol a
ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o
Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC). Datganodd Luke
Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae eisoes wedi
llofnodi deiseb mewn perthynas â’r mater hwn. Nododd a chroesawodd y Pwyllgor y ffaith bod Llywodraeth
Cymru eisoes wedi ymrwymo i wahardd defnyddio maglau yng Nghymru, felly
cytunodd yr Aelodau i longyfarch y deisebydd a chau'r ddeiseb. |
|
P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor i ofyn am bapur cwmpasu gan y
gwasanaeth ymchwil ynglŷn â’r mater hwn, cyn penderfynu pa gamau y gellid eu
cymryd mewn perthynas â’r ddeiseb hon. |
|
P-06-1164 Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Nododd y Pwyllgor fod deddfwriaeth eisoes yn bodoli ar
gyfer sefyllfaoedd pan fo bwlio neu aflonyddu yn drosedd, ac nad yw Llywodraeth
Cymru yn bwriadu deddfu ymhellach ar y mater hwn. Felly, cytunodd yr Aelodau i
gau’r ddeiseb, a diolch i'r deisebydd am godi’r mater. Wrth gau’r ddeiseb, roedd yr Aelodau am wneud y datganiad
nad yw bwlio ac aflonyddu yn dderbyniol yng Nghymru. |
|
P-06-1167 Cefnogwch fusnesau teithio a thwristiaeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Cytunodd y Pwyllgor y dylai Aelodau unigol y Senedd fynd
i'r afael â'r mater hwn yn awr, ac nad oedd llawer pellach y gallai'r Pwyllgor
ei wneud ynglŷn â’r mater. Cytunodd y Pwyllgor i ddiolch i'r
deisebydd am godi’r mater a chau’r ddeiseb. |
|
Papur i'w nodi Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor y llythyr. |
|
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o'r cyfarfod ar gyfer eitem 6. Cofnodion: Derbyniwyd y cynnig. |
|
Sesiwn Cynllunio Strategol / Cyflwyniad data deisebau Cofnodion: Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gyflwynwyd a
chytunodd i ddychwelyd at y mater, gan ofyn i gael papur ynghylch y mater hwn
sy’n edrych yn fanylach ar oblygiadau newid y trothwy llofnodion erbyn y
cyfarfod nesaf. |