Agenda a Chofnodion
Lleoliad: Ystafell Bwyllgora 5 - Tŷ Hywel. Cyfarwyddiadau
Cyswllt: Gareth Price
Cyfryngau
Senedd.TV: Gweld y gweddarllediad
Transcript: Trawsgrifiad ar gyfer 16/07/2021 - Y Pwyllgor Deisebau
Amseriad disgwyliedig | Rhif | Eitem |
---|---|---|
(09.30) |
Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datganiadau o fuddiant Dogfennau ategol: Cofnodion: Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod. Ni
chafwyd ymddiheuriadau. |
|
(09.30-09.35) |
Cylch gwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd yr Aelodau gylch gwaith a chyfrifoldebau'r
Pwyllgor. |
|
(09.35-10.15) |
Deisebau newydd Cofnodion: Yn unol â'r arfer
a fabwysiadwyd gan Bwyllgorau Deisebau blaenorol, cytunodd y Pwyllgor y gwneir
cais am ymateb ysgrifenedig gan Lywodraeth Cymru, neu sefydliad perthnasol
arall, cyn ei drafodaeth gyntaf o ddeisebau newydd yn y dyfodol. |
|
P-06-1158 Llywodraeth Cymru i benodi Gweinidog anabledd pwrpasol o fewn tymor nesaf y Llywodraeth Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Prif Weinidog
i ofyn am ymateb i’r materion a godir yn y ddeiseb. |
||
P-06-1159 Gwahardd cynhyrchu, gwerthu a defnyddio maglau anifeiliaid unwaith ac am byth yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Luke
Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Cefnogodd yr
achos hwn yn ystod ei ymgyrch etholiadol. Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n aelod o
Gymdeithas Saethu a Chadwraeth Prydain (BASC). Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y Gweinidog
perthnasol i ofyn am ymateb i’r materion a godir yn y ddeiseb ac amserlen ar
gyfer y gwaharddiad arfaethedig. |
||
P-06-1160 Ei gwneud yn ofynnol i ganolfannau arholiadau lleol yng Nghymru dderbyn myfyrwyr sy'n cael addysg yn y cartref ar gyfer arholiadau cyhoeddus Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y
Gymraeg ac Addysg i ofyn am ymateb i’r ddeiseb. |
||
P-06-1161 Casglu a chyhoeddi data yn rheolaidd o ran faint o fabanod/plant sy'n dychwelyd at ofal eu rhieni sydd wedi bod mewn gofal ar ddiwedd Lleoliad Rhiant a Phlentyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunwyd i ysgrifennu at y Comisiynydd
Plant i gael ei hymateb i'r ddeiseb. |
||
P-06-1162 Rhannu Sir Rhondda Cynon Taf ac uno Cwm Cynon â Sir Merthyr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n Gynghorydd
ar Gyngor Rhondda Cynon Taf. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd, gan nad oedd llawer o gamau y
gallai eu cymryd ar y mater a godwyd, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack
Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
beiriannydd. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at y canlynol: ·
Gweinidog y Gymraeg
ac Addysg i ofyn am ymateb i'r mater a godir gan y ddeiseb; a’r ·
Ganolfan Technolegau Amgen yn gofyn a yw wedi ceisio cael ei dynodi'n
Sefydliad Addysg Uwch gan Lywodraeth Cymru ar gyfer y cwrs hwn a chyrsiau
eraill, neu a yw’n bwriadu gwneud hynny yn y dyfodol. |
||
P-06-1164 Gwneud bwlio ac aflonyddu mewn ysgolion yn drosedd pan fydd plant wedi cyrraedd yr oedran cyfrifoldeb troseddol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Weinidog y
Gymraeg ac Addysg i ofyn am ei ymateb i’r mater a godir yn y ddeiseb. |
||
P-06-1165 Dylid gwahardd gwerthu ac yfed alcohol yn y Senedd Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Gomisiwn y
Senedd o gofio mai mater i'r Comisiwn yw rheoli ystâd y Senedd. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd nad oedd llawer o gamau y gallai eu cymryd ar y ddeiseb o gofio
ei gylch gwaith, a chytunodd, felly, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd am
godi’r mater. |
||
P-06-1166 Darparu grantiau di-dreth i bobl sy'n gweithio yn y celfyddydau a darparu cyllid grant i leoliadau celfyddydol. Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Buffy
Williams AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y
deisebydd. Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n adnabod y
deisebydd. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ddirprwy
Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ofyn am ymateb i’r materion a godir yn y
ddeiseb. |
||
P-06-1167 Cefnogwch fusnesau teithio a thwristiaeth Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ddirprwy
Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon i ofyn am ymateb i’r materion a godir. |
||
P-06-1168 Ystyriwch ail-wneud y flwyddyn academaidd gyfredol hon ar gyfer myfyrwyr ar draws Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Luke
Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
llywodraethwr ysgol. Datganodd Joel
James AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
llywodraethwr ysgol. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf ac o ystyried bod Llywodraeth Cymru wedi
gwrthod cynigion yn flaenorol i ddisgyblion ailadrodd y flwyddyn ysgol a'r
cynllun adfer amgen y mae wedi'i gyhoeddi cytunodd y Pwyllgor i: ·
ysgrifennu at
Weinidog y Gymraeg ac Addysg i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf ar y materion a
godir yn y ddeiseb; ac ·
unwaith y daw
ymateb gan y Gweinidog, cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-06-1169 Gadewch i ddinasyddion Cymru bleidleisio ar gyfyngiadau symud Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a nododd nad oedd llawer o gamau y gallai eu
cymryd ar y materion a godir yn y ddeiseb. Felly, cytunodd y Pwyllgor i gau’r
ddeiseb a diolch i’r deisebydd. |
||
P-06-1170 Adolygiad annibynnol di-oed o'r broses ddethol Haen 1 a Haen 2 yn Uwch-gynghrair Menywod Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Luke
Fletcher AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae'n
gyd-gyflwynydd ar ddatganiad barn perthnasol. Trafododd y
Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd i ysgrifennu at Ddirprwy
Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon a Chymdeithas Bêl-droed Cymru i ofyn am eu
barn ar y materion a godir yn y ddeiseb.
|
||
(10.15-10.45) |
Y wybodaeth ddiweddaraf am ddeisebau blaenorol |
|
P-05-914 Mynediad Cyfartal i Ofal Iechyd ar gyfer yr Anabl Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a'r gwaith a wnaed gan y Pwyllgor blaenorol
a chytunodd i lunio adroddiad byr ar y materion a godir yn y ddeiseb. |
||
P-05-974 Dylid sicrhau bod technoleg yr aelodau prosthetig a ddarperir gan GIG Cymru cystal â'r hyn a geir yng ngweddill y DU Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a chytunodd fod y ddeiseb wedi cyflawni ei
nod o sicrhau bod technoleg prosthetig yn gyfartal â'r hyn sydd ar gael o fewn
GIG Lloegr a'r Alban. Cytunodd felly i gau'r ddeiseb a llongyfarch y deisebydd
ar y canlyniad cadarnhaol a gafwyd. Cytunodd y
Pwyllgor hefyd i lunio astudiaeth achos i ddangos sut y gall deisebau wneud
gwahaniaeth. |
||
P-05-1078 Cynyddu cyllid ar gyfer gwasanaethau iechyd meddwl a gwella amseroedd aros i bobl sydd angen help mewn argyfwng. Mae angen newid! Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd, a nododd fod y ddeiseb wedi'i thrafod yn y
Cyfarfod Llawn yn y Senedd ddiwethaf a chytunodd i ddiolch i'r deisebydd am
godi'r mater ac i rannu atgrynhoad o'r ddadl gyda'r deisebydd. Roedd yr
Aelodau'n cofio ymgyrchoedd cryf dros fynediad 24 awr at wasanaeth Iechyd
Meddwl yn ystod ymgyrch yr etholiad – a chytunwyd i ysgrifennu at y Gweinidog
Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am y mater
cysylltiedig hwnnw. |
||
P-05-1147 Dylid ei gwneud yn ofynnol i bob ysgol ddarparu addysg fyw/addysg wedi'i recordio bob dydd i bob disgybl nad yw'n dychwelyd i'r ysgol Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a dderbyniwyd a nododd fod y Gweinidog ar y pryd wedi
datgan yn glir mai mater i'r ysgol a'r awdurdod lleol yw penderfyniadau
ynghylch gwersi byw neu wersi wedi’u recordio. O ganlyniad, nid oedd llawer o
gamau pellach y gallai eu cymryd. Cytunodd i gau'r ddeiseb a diolch i'r
deisebydd am godi'r mater ac awgrymu eu bod yn cysylltu â'u hysgol neu awdurdod
lleol yn uniongyrchol os oeddent yn dymuno bwrw ymlaen â'r mater. |
||
P-05-1013 Rhowch gymorth ariannol i unigolion hunangyflogedig yn niwydiant cerddoriaeth fyw Cymru Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor yr ohebiaeth a ddaeth i law a daeth i'r casgliad, gyda gofid, nad oedd
llawer o gamau pellach y gallai eu cymryd ar y mater ac felly cytunodd i gau'r
ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-05-1092 Peidiwch â gohirio etholiadau mis Mai 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gan fod yr
amserlen a nodir yn y ddeiseb wedi pasio, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd. |
||
P-05-1150 Rhowch wyliau ardrethi busnes i safleoedd cartrefi gwyliau yng Nghymru, fel yn Lloegr Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gan fod y camau
yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn cael eu rhoi ar waith, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-05-1151 Dylid pennu dyddiad ar gyfer ailddechrau gweithgareddau wedi'u trefnu ar gyfer babanod a phlant bach Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gan fod y camau
yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn cael eu rhoi ar waith, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-05-1154 Dylid ailagor y sector lletygarwch yng Nghymru erbyn 12 Ebrill 2021 Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gan fod y camau
yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn cael eu rhoi ar waith, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-05-1156 Dylid cyfateb y cyllid ar gyfer busnesau bach yn ystod y cyfyngiadau symud gyda Lloegr - gan gynnwys y grant ailgychwyn Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gan fod y camau
yr oedd y ddeiseb yn galw amdanynt yn cael eu rhoi ar waith, cytunodd y
Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
P-05-1157 Caniatáu i ysgolion asesu myfyrwyr fel y maent yn gweld yn addas, gan gynnwys defnyddio asesiadau llyfr agored Dogfennau ategol:
Cofnodion: Gan fod yr
amserlen a nodir yn y ddeiseb wedi pasio, cytunodd y Pwyllgor i gau’r ddeiseb a
diolch i’r deisebydd. |
||
(10.45-10.50) |
Papurau i’w nodi |
|
Adroddiad gwaddol Fforwm y Cadeiryddion blaenorol Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y
Pwyllgor yr adroddiad. |
||
Adroddiad gwaddol y pwyllgor a oedd yn rhagflaenu Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr adroddiad. |
||
P-05-805 Rhoi chwarae teg i Athrawon Cyflenwi Dogfennau ategol: Cofnodion: Nododd y Pwyllgor
yr ymateb gan Lywodraeth Cymru a chytunodd i gau’r ddeiseb a diolch i’r
deisebydd. |
||
P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494) Dogfennau ategol:
Cofnodion: Datganodd Jack
Sargeant AS y buddiant perthnasol a ganlyn o dan Reol Sefydlog 17.24A: Mae wedi datgan
ei gefnogaeth i'r llwybr. Nododd y Pwyllgor
y datganiad gan y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n cadarnhau y bydd
adolygiad o'r llwybr yn cael ei gynnal. O ystyried argymhelliad y Pwyllgor i gynnal adolygiad
cytunodd y Pwyllgor i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd. |
||
(10.50) |
Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i benderfynu gwahardd y cyhoedd o’r cyfarfod ar gyfer eitem 7 ac eitem 8 o’r cyfarfod. Cofnodion: 5.1
Derbyniwyd y cynnig. |
|
(10.50-11.10) |
Gweithdrefnau pwyllgorau a'u ffyrdd o weithio Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor ei weithdrefnau a'i ffyrdd o weithio a chytunodd i ysgrifennu at y
Pwyllgor Busnes i'w hysbysu o'i benderfyniad i gadw’r trothwyon presennol: ·
gofyn am 50 o lofnodion er mwyn i'r
Pwyllgor ystyried y ddeiseb; a ·
gofyn am 10,000 o lofnodion cyn i'r
Pwyllgor ystyried gwneud cais am ddadl ar y ddeiseb yn y Senedd. Cytunodd y
Pwyllgor i adolygu'r trothwyon hyn maes o law er mwyn sicrhau eu bod yn
parhau'n briodol. |
|
(11.10-11.30) |
Dull gweithredu strategol o ran cylch gwaith y Pwyllgor Dogfennau ategol:
Cofnodion: Trafododd y
Pwyllgor sut roedd am ymdrin â’i ddull gweithredu a chytunodd ar y canlynol: ·
canolbwyntio ar faterion lefel
uchel lle y gallai'r Pwyllgor gynorthwyo i lunio polisi'r Llywodraeth; ac ·
ymgymryd â gwaith allgymorth ac
ymgysylltu pan fydd yn ddiogel gwneud hynny. |