P-06-1162 Rhannu Sir Rhondda Cynon Taf ac uno Cwm Cynon â Sir Merthyr

P-06-1162 Rhannu Sir Rhondda Cynon Taf ac uno Cwm Cynon â Sir Merthyr

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sian Davies, ar ôl casglu cyfanswm o 138 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Yn ystod y cyfyngiadau lleol hyn, daeth yn amlwg iawn bod Cwm Cynon (Aberdâr yn bennaf) wedi’i ddatgysylltu’n llwyr oddi wrth weddill Rhondda Cynon Taf. Mae’r holl gyfleusterau lleol yn ein hardal wedi’u symud i Ferthyr, sef ein llys, ein hysbyty, ein cofrestrfa ar gyfer genedigaethau / marwolaethau, ein canolfan siopa, ac yn y blaen. Daeth hyn yn amlwg iawn pan ddywedwyd wrth drigolion Aberdâr na chânt deithio i Ferthyr ond bod yn rhaid iddynt deithio’r holl ffordd i Lantrisant. A ydych chi erioed wedi ceisio mynd i Lantrisant ar drafnidiaeth gyhoeddus?

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Mae barn gyffredinol yn Aberdâr ein bod ni o dan anfantais wrth ystyried y gwariant sy’n amlwg ym Mhontypridd / Tonysguboriau ac ati oherwydd eu bod nhw yn agosach at y Brifddinas. Mae’r Rhondda yn cael llawer o arian am ei bod wedi’i nodi fel ardal ddifreintiedig, ac mae’n rhaid i drigolion Cwm Cynon godi arian ar gyfer cael unrhyw gyfleusterau, er enghraifft y pad sblasio yn y parc, ac eto cafodd Pontypridd y pwll a’r parc sblasio. Cawsant hwy y rhwydwaith ffordd liniaru o amgylch Pentre’r Eglwys flynyddoedd yn ôl, ac rydyn ni’n dal i aros i’r ffordd gael ei gwneud yn ffordd ddeuol rhyngom ni a Merthyr er ei bod yn cael ei hystyried yn un o’r ffyrdd mwyaf peryglus yn Ne Cymru.

 

Gyda phoblogaeth Rhondda Cynon Taf y drydedd boblogaeth fwyaf yng Nghymru, ychydig yn llai na dinas Abertawe a dinas Caerdydd, ac yn un o’r ardaloedd mwyaf ar ôl Powys, mae’n amlwg nad yw’r Sir hon yn addas at y diben. Gyda Sir Merthyr, flaengar, rydym o’r farn y byddem yn ffynnu ac yn sir a gâi ei rhedeg yn well, yn enwedig gan fod y cyfyngiadau lleol fel pe baent am fod yn ddigwyddiadau cyffredin yn y dyfodol.

 

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 16/07/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb am y tro cyntaf a chytunodd, gan nad oedd llawer o gamau y gallai eu cymryd ar y mater a godwyd, i gau'r ddeiseb a diolch i'r deisebydd.

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/07/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Cwm Cynon
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2021