P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)
P-05-886 Stopio'r Llwybr Coch (coridor yr A55/A494)
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Linda Scott, ar ôl casglu
cyfanswm o 1,275 lofnodion ar-lein a 134 ar bapur, sef cyfanswm o 1,409 o
lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Rydym yn galw ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru i
annog Llywodraeth Cymru i dynnu ei chefnogaeth yn ôl i'r "Llwybr
Coch" (Gwella Coridor Glannau Dyfrdwy yr A55/A494/A548) am y rhesymau a
ganlyn:
1) Mae adeiladu'r ffordd newydd drwy goetir
hynafol, ac ar draws tir amaethyddol, yn groes i Bolisi Cynllunio Cymru a Deddf
Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
2) Bydd y cynlluniau a gyhoeddwyd yn ddiweddar
ar gyfer Pont Dyfrdwy newydd ar yr A494, ehangu'r A494 a gwelliannau eraill, yn
gwella traffig Glannau Dyfrdwy heb fod angen y 'Llwybr Coch'.
3) Nid oedd y costau a ddefnyddiwyd i gyfiawnhau
dewis y "Llwybr Coch" yn cyfrif am y gwaith angenrheidiol i wella
Pont Sir y Fflint. Nid yw hyn ychwaith yn cynnwys ychwanegu lôn araf ar bwynt
tagfeydd difrifol ar yr A55, sef y bryn allan o Laneurgain tuag at Dreffynnon.
Bydd adeiladu'r Llwybr Coch yn gwaethygu'r pwyntiau hyn. Mae'r amcangyfrif
annigonol o'r costau yn awgrymu nad oes modd dweud bod y ffordd arfaethedig yn
cynnig gwerth am arian. At hynny, nid yw'r costau'n cynnwys y gwelliannau
arfaethedig i'r A494 (a amlinellir yn 2).
4) Roedd dewis y Llwybr Coch yn seiliedig ar
arolygon traffig anghynrychioliadol.
5) Wrth ystyried y Llwybr Coch, methodd
Llywodraeth Cymru ag ymgynghori'n ddigonol â thrigolion ardaloedd y Fflint a
Llaneurgain er gwaetha'r effaith sylweddol bosibl ar eu cymunedau. Er gwaetha'r
ffaith y byddai'r ffordd newydd yn costio dros chwarter biliwn o bunnoedd,
mae'n debygol o arwain at fwy o dagfeydd traffig yn y cymunedau hyn.
6) Mae'r Panel Rhyngwladol ar Newid Hinsawdd
wedi galw am weithredu brys i leihau allyriadau C02, gan ddweud mai dim ond 12
mlynedd sydd gennym ar ôl i achub hinsawdd y byd. Mae angen inni fuddsoddi ein
hadnoddau cyfyngedig mewn trafnidiaeth gynaliadwy fel rheilffyrdd.
Statws
Yn ei gyfarfod ar 16/03/2021 penderfynodd y Pwyllgor
Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.
Caewyd y ddeiseb fel rhan o adolygiad o'r holl
ddeisebau sy'n cael eu hystyried ar hyn o bryd yng nghyfarfod olaf y Pwyllgor
Deisebau yn y Bumed Senedd, yng ngoleuni'r etholiad sydd i ddod a'r ystyriaeth
a roddwyd i'r mater hwn hyd yma.
Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon
a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.
Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 25/06/2019.
Etholaeth a Rhanbarth y Senedd
- Delyn
- Gogledd Cymru
Rhagor o wybodaeth
- Hafan y Pwyllgor Deisebau
- Gweld pob deiseb sydd ar agor
- Gweld pob deiseb mae’r pwyllgor bellach yn
ystyried
- Sut mae proses Ddeisebu yn gweithio
Math o fusnes: Deiseb
Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;
Cyhoeddwyd gyntaf: 10/06/2019
Dogfennau