P-06-1170 Adolygiad annibynnol di-oed o'r broses ddethol Haen 1 a Haen 2 yn Uwch-gynghrair Menywod Cymru

P-06-1170 Adolygiad annibynnol di-oed o'r broses ddethol Haen 1 a Haen 2 yn Uwch-gynghrair Menywod Cymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Mali Beatrice Summers, ar ôl casglu cyfanswm o 2,526 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:         

Mae Clwb Pêl-droed Menywod y Fenni, Tîm Menywod Llansawel a Thîm Menywod Ifanc Cascade wedi’u gorfodi allan o Uwch-gynghrair Menywod Cymru, y prif gynghrair i fenywod yng Nghymru, er iddynt orffen uwchben y parth diraddio. Rydym yn galw am adolygiad annibynnol llawn o broses ddethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru ar gyfer y cynghreiriau Haen 1 a Haen 2 newydd er mwyn sicrhau tryloywder, cydraddoldeb a thegwch. Dylid penderfynu ar ddyrchafu neu ddiraddio ar y cae, ac nid ar sail arian neu faint tîm y dynion.

 

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 20/09/2021 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Cytunodd y Pwyllgor i:

  • gydnabod rhwystredigaeth y deisebydd ynglŷn â’r broses ar diffyg tryloywder mewn perthynas â chyhoeddi'r matrics sgorio a oedd yn sail i broses ddethol Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
  • nodi eu siom â phroses ailstrwythuro Cymdeithas Bêl-droed Cymru.
  • nodi rhwystredigaeth y Pwyllgor ac nad oedd unrhyw beth arall y gallai ei wneud, yn anffodus. Gan hynny, roedd yn rhaid cau’r ddeiseb a diolch i’r deisebydd am dynnu sylw at ei phryderon.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/07/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Brycheiniog a Sir Faesyfed
  • Canolbarth a Gorllewin Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 02/07/2021