P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

P-06-1163 Dylid ymestyn y fwrsariaeth STEMM ôl-raddedig i bob myfyriwr MSc yng Nghymru

Wedi'i gwblhau

 

Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Rachel Wrathall, ar ôl casglu cyfanswm o 88 lofnodion.

 

Geiriad y ddeiseb:        

Ym mis Mehefin 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun bwrsariaethau i gynyddu nifer y graddedigion o Gymru sy’n aros yng Nghymru neu’n dychwelyd i Gymru i astudio gradd meistr mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Mathemateg neu Feddygaeth (a elwir hefyd yn bynciau 'STEMM'). Ar hyn o bryd mae’r cyllid hwn yn berthnasol i brifysgolion traddodiadol yn unig, sy’n eithrio myfyrwyr sy'n dewis gradd Meistr mewn pwnc STEMM trwy ddarparwyr eraill. Mae hyn yn eithrio rhai myfyrwyr y mae angen mwy o hyblygrwydd arnynt o ran y pwnc STEMM neu sut caiff y cwrs ei gyflwyno.

 

Gwybodaeth Ychwanegol:

Argymhellodd adolygiad Diamond y dylid ymdrechu “i alluogi myfyrwyr i astudio yn y modd sy’n gweddu orau i’w hamgylchiadau”. (Adolygiad o Drefniadau Cyllido Addysg Uwch a Chyllid Myfyrwyr yng Nghymru, 2016).

 

Ar hyn o bryd nid oes hawl gan fyfyrwyr sy'n astudio ar gyfer gradd Meistr STEMM yn Ysgol yr Amgylchedd yng Nghanolfan y Dechnoleg Amgen (CAT) ym Machynlleth gael bwrsariaeth STEMM gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cyrsiau a ddarperir yn CAT yn canolbwyntio’n benodol ar gynaliadwyedd, sy'n cyd-fynd ag ymdrechion Llywodraeth Cymru i newid cwrs Cymru tuag at lwybr mwy cynaliadwy (e.e. trwy'r egwyddorion a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015).

 

Mae dull addysgu hyblyg yn CAT, ac yn wahanol i brifysgolion traddodiadol, mae'n galluogi myfyrwyr i astudio ar gyfer gradd Meistr a addysgir gan barhau â’u gwaith/cyfrifoldebau gofalu.

 

Credwn fod eithrio myfyrwyr STEMM mewn sefydliadau fel CAT rhag gallu cael arian bwrsariaeth STEMM yn mynd yn groes i nodau’r polisi bwrsariaeth STEMM.

 

A picture of money

 

 

Statws

Yn ei gyfarfod ar 17/10/2022 penderfynodd y Pwyllgor Deisebau fod y ddeiseb hon wedi'i chwblhau.

 

Trafododd y Pwyllgor y ddeiseb a chytunwyd ei fod wedi mynd â’r mater cyn belled ag y gall fel pwyllgor a chytunodd i gau’r ddeiseb ac i ddiolch i’r deisebydd.

 

Gellir gweld manylion llawn ynghylch trafodaeth y Pwyllgor o'r ddeiseb hon a'r dogfennau cysylltiedig ar y tab Cyfarfodydd uchod.

Cafodd ei thrafod gyntaf gan y Pwyllgor Deisebau ar 16/07/2021.

 

 

Etholaeth a Rhanbarth y Senedd

  • Bro Morgannwg
  • Canol De Cymru

 

Rhagor o wybodaeth

 

 

 

 

Math o fusnes: Deiseb

Rheswm dros ei ystyried: Busnes y Senedd;

Statws: I'w ystyried

Cyhoeddwyd gyntaf: 09/07/2021

Dogfennau